Ar y cyd gydag Ymddiriedolaeth Gymunedol Clwb Pêl-droed Abertawe, mae Menter Iaith Abertawe wedi trefnu Ysgol Bêl-droed i blant rhwng 8 a 11 oed. Ym mis Mehefin a Gorffennaf 2021 bydd cyfle gwych i blant gymdeithasu yn y Gymraeg a chwrdd â ffrindiau newydd o ysgolion gwahanol wrth ddysgu sgiliau pêl-droed.

Dywed Tomos Jones, Prif Swyddog y Fenter;

Bydd y plant yn cael y cyfle arbennig o dderbyn hyfforddiant gan un o hyfforddwyr Clwb Pêl-droed Abertawe. Bydd grŵp o wirfoddolwyr 6ed dosbarth ysgolion lleol hefyd yn bresennol i helpu gyda’r sesiynau, felly bydd cyfle i ddisgyblion blwyddyn 6 dod i adnabod rhai wynebau cyfarwydd cyn cychwyn yn eu hysgolion newydd ym mis Medi.

Rydym yn falch iawn i allu cydweithio gydag adran gymunedol yr Elyrch ar y prosiect cyffrous yma. Mae’r cynllun yma yn cynnig cyfle gwych i bobl ifanc yr ardal fwynhau’r Gymraeg ar y cae pêl-droed. Mae partneriaethau fel hyn hefyd yn ein galluogi i gyflwyno cyfleoedd i gynulleidfaoedd newydd.”

Mae’r sesiwn gyntaf yn cael ei chynnal ar nos Iau’r 17eg o Fehefin am 17:00.

Eisiau cymryd rhan? Clicia yma