Mentrau Iaith Cymru

Amdanom ni

Mae’r Mentrau Iaith yn fudiadau cymunedol, gwirfoddol a deinamig sy’n hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru, ac mae Mentrau Iaith Cymru yn cefnogi eu gwaith yn genedlaethol i gynyddu’r defnydd o’r iaith yn ein cymunedau.

YsgolBerllanDeg_29Mai 2015_km021

Y Mentrau Iaith

Nod y Mentrau Iaith yw hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru.

Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991, ac yn y blynyddoedd ers hynny mae cymunedau ar draws Cymru wedi gweithredu i ffurfio Mentrau eu hunain. Erbyn hyn mae 23 Menter Iaith yng Nghymru sy’n gwasanaethu pob rhan o Gymru.

Y Mentrau Iaith yw’r ffordd mae cymunedau lleol Cymru yn gweithredu er budd y Gymraeg.  Mae wedi bod yn fodel llwyddiannus dros y blynyddoedd ac yn cael ei gydnabod fel ffordd effeithiol o ddatblygu cymunedol sydd yn gwneud gwahaniaeth yn lleol.

Mae’r Mentrau Iaith yn cael eu rheoli gan bwyllgorau rheoli gwirfoddol ac maent yn gweithio mewn partneriaeth gydag amryw o sefydliadau eraill.

SONY DSC

Mentrau Iaith Cymru

Mudiad Cenedlaethol sy’n cefnogi rhwydwaith o 23 Menter Iaith ledled Cymru yw Mentrau Iaith Cymru (MIC)

Mae MIC yn cefnogi’r rhwydwaith o Mentrau Iaith trwy amryw o weithgareddau a meysydd, gan gynnwys marchnata a chyfathrebu, hyfforddiant a dylanwadu er budd y Gymraeg.  Yn llorweddol i’n gwaith mae’r egwyddor o rannu gwybodaeth, profiadau, syniadau ac adnoddau rhwng y Mentrau Iaith a phartneriaid eraill ar draws Cymru.

Rydym hefyd yn datblygu prosiectau cenedlaethol a rhanbarthol mewn partneriaeth â’r Mentrau Iaith a chyrff eraill. Ewch i’n tudalen Ein Gwaith i gael gwybod mwy.

Hanes Cryno…

Blynyddoedd Cynnar y Mentrau: 1991-1999

Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn Ionawr 1991. Erbyn 1998 roedd pump Menter yn bodoli sef Cwm Gwendraeth, Aman Tawe, Taf Elai, Maldwyn a Môn.

Ar sail llwyddiant y Mentrau cynnar, bu galw am Fentrau tebyg mewn ardaloedd eraill ledled Cymru, ac yn ystod y cyfnod hwn roedd rhai Mentrau yn cynorthwyo i sefydlu Mentrau eraill, yn rhannu gwybodaeth a phrofiadau yn anffurfiol rhwng staff y Mentrau.

Mentrau Iaith Cymru: 1999-2004

Sefydlwyd Mentrau Iaith Cymru ym 1999 gan y Mentrau Iaith lleol gan fod yr angen wedi ei adnabod i gydgyfarfod yn rheolaidd, rhannu profiadau a gwybodaeth a rhoi enw a proffil i’r Mentrau Iaith gyda’i gilydd.

Bu cyfnod o waith di-dor gan wirfoddolwyr a staff y Mentrau Iaith lleol i sefydlu MIC fel mudiad cenedlaethol.

Yn ystod y cyfnod hwn, ymgymerwyd â gweithgareddau amrywiol yn enw MIC er mwyn datblygu’r mudiad fel corff cenedlaethol.

2004 – 2012

Penodwyd Swyddog Datblygu MIC yn 2004 i ymgymryd â’r gwaith o ddatblygu MIC fel corff i gefnogi’r Mentrau Iaith ledled Cymru. Prif swyddogaethau’r Swyddog oedd trefnu cyfarfodydd, casglu cofnodion, ymchwilio i grantiau, cryfhau cyfathrebu rhwng y Mentrau, cydlynu a datblygu prosiectau cenedlaethol yn ogystal â bod yn un pwynt cyswllt i bob Menter wrth rannu arfer da a chydweithio.

Datblygwyd nifer o brosiectau cyffrous yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys Brwydr y Bandiau ar y cyd â’r BBC; Menter Patagonia i hyrwyddo’r Gymraeg yn y Wladfa a phrosiectau i gysgodi a mentora rhwng y Mentrau Iaith er mwyn rhannu profiadau, syniadau ac arfer da.

2012 – Heddiw

Yn 2012 llwyddodd Mentrau Iaith Cymru i ddenu cyllid grant craidd gan Lywodraeth Cymru a alluogodd y mudiad i gyflogi Cydlynydd Cenedlaethol i ymuno â’r Swyddog Datblygu i gydweithio â’r Mentrau Iaith.  Golygodd hyn y byddai gweithgareddau Mentrau Iaith Cymru yn ehangu unwaith eto er mwyn cefnogi’r Mentrau ac ymgymerwyd â phrosiectau hyfforddiant, cynadleddau, gwaith pellach yn y maes dylanwadu ar bolisi, cynyddu presenoldeb MIC ar rwydweithiau a grwpiau strategol i gynrychioli’r Mentrau a’r Gymraeg, yn ogystal â mwy o weithgareddau marchnata i godi proffil y Mentrau yn genedlaethol.

Ym mis Ionawr 2015, llwyddodd y Mentrau Iaith i ddenu cefnogaeth ariannol bellach gan Lywodraeth Cymru a alluogodd MIC i benodi dau swyddog newydd i ymuno â’r tîm, sef Swyddog Marchnata a Chyfathrebu a Swyddog Hyfforddiant.

Y mae’r tîm o bedwar bellach yn cydlynu’r lefel uchaf o wasanaeth a gweithgareddau i gefnogi’r Mentrau iaith fel nas cafwyd erioed o’r blaen ac fel mudiad ar y cyd â’r Mentrau lleol, rydym yn edrych o hyd i ddatblygu er budd y Mentrau Iaith a’r Gymraeg.

Cwrdd â'r Tîm

  • Iwan Hywel
    Iwan Hywel

    Mentrau Iaith Cymru, Y Sgwâr, Llanrwst, Conwy, LL26 0LG 01492 643401

    Anfon e-bost at Iwan Hywel

    Iwan Hywel

    Swyddog Hyfforddiant

    Hoffi? Rygbi, pel droed, bywyd gwyllt a unrhyw fath o pei.

    Ddim yn hoffi? Uchelderau, cwstard wy a technoleg fodern

    Pleser mwyaf? Magu 3 mwddrwg bach a chael gweithio’n cefnogi’r Iaith Gymraeg.

    Yr her fwyaf? Magu 3  mwddrwg bach a chael gweithio’n cefnogi’r Iaith Gymraeg.

  • Marged Rhys
    Marged Rhys

    Mentrau Iaith Cymru, Y Sgwâr, Llanrwst, Conwy, LL26 0LG 01492 643401

    Anfon e-bost at Marged Rhys

    Marged Rhys

    Swyddog Datblygu

    Hoffi? Cerddoriaeth, mynd am dro, dysgu technolegau newydd, gwersylla

    Ddim yn hoffi? Eistedd mewn traffic dinas, arogl banana mewn car, pobl yn siarad yn ystod ffilm (yn Gymraeg a’i pheidio!)

    Pleser mwyaf? Mynd am dro ger y Fenai yng Nghaernarfon ar ddiwrnod braf.

    Yr her fwyaf? Darganfod amser i wneud popeth, a chael amser i ymlacio ar y diwedd.

  • Heledd ap Gwynfor
    Heledd ap Gwynfor

    Mentrau Iaith Cymru, Yr Atom, 18 Heol y Brenin, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 1BN

    Anfon e-bost at Heledd ap Gwynfor

    Heledd ap Gwynfor

    Swyddog Datblygu

    Hoffi? Teithio – adre’ a dramor, ieithoedd, cerddoriaeth o BOB math, mynydda, coginio, canu corawl, ffilmiau, tynnu lluniau, darllen

    Ddim yn hoffi? Difaterwch

    Pleser mwyaf? Chwarae ar draeth Llansteffan gyda’r mab

    Yr her fwyaf? Magu teulu; cael pawb i ddefnyddio’r Gymraeg wrth gwrs!

    Hoffi? Teithio – adre’ a dramor, ieithoedd, cerddoriaeth o BOB math, mynydda, coginio, canu corawl, ffilmiau, tynnu lluniau, darllen

    Ddim yn hoffi? difaterwch

    Pleser mwyaf? Chwarae ar draeth Llansteffan gyda’r mab

    Yr her fwyaf? Magu teulu; cael pawb ddefnyddio’r Gymraeg wrth gwrs!

Rhannu'r cynnwys hwn

X
- Enter Your Location -
- or -