Mae prosiect cerddorol ‘Bocsŵn’ sy’n cael ei weithredu gan y fenter iaith leol wedi bod yn datblygu cerddorion ifanc i ffurfio bandiau ers 2001. Gan ddatblygu sgiliau pobl ifanc 11 i 16 oed i ysgrifennu caneuon, dysgu offeryn a thechnoleg recordio a pheiriannu dan arweiniad tiwtoriaid – mae’r prosiect yn gosod sylfaen arbennig i fandiau ifanc a’n sicrhau dyfodol disglair i’r sin gerddoriaeth Gymraeg.

Dywed aelodau ‘An(n)aearol’, un o’r bandiau sy’n rhan o’r prosiect yn bresennol gydag aelodau (Megan, Tesni, Cameron a Glyn) o Ynys Môn a Chaernarfon;

“Ers bod yn ‘steddfod Genedlaethol 2017, ddaru ni gychwyn gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg a mynd i gigs bandiau fel Gwilym, Alffa, Candelas a Fleur De Lys. Ddaru ni weld faint o hwyl oedd y bandia’ yn cael ar y llwyfan ein hysbrydoli ni i fod mewn band ac i greu cerddoriaeth Cymraeg.

Mae’r Fenter Iaith yn wych yn cefnogi bandia’ lleol wrth adael ni defnyddio’r offer sydd yn y stiwdio a threfnu gigs i hybu cerddoriaeth Cymraeg ymysg pobl ifanc.

Da ni gyd yn caru cerddoriaeth ers yn ifanc iawn ac yn gobeithio parhau i greu cerddoriaeth a gigio yn y dyfodol.”

Mae’r fenter hefyd yn ceisio annog y bobl ifanc drefnu a chynnal eu gigs eu hunain a pherfformio mewn gwyliau amrywiol.

Dywed Nia Thomas, Prif Swyddog Menter Iaith Môn;

“Mae athrylith Bocsŵn yn ysbrydoli plant a phobl ifanc Môn i fynd i’r afael â cherddoriaeth, a sawl un am y tro cyntaf.  Ein nod ym Menter Iaith Môn yw darparu cyfleodd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau fwynhau yn y Gymraeg, ac mae Bocsŵn wedi llwyddo i dreiddio cerddoriaeth Gymraeg i gartrefi a chalonnau trigolion Môn.

Mae Dydd Miwsig Cymru yn gyfle i ni ddathlu hynny drwy gefnogi bandiau ifanc lleol, fel An(n)aearol, Aerobic a Carma a rhoi platfform iddynt berfformio eu cerddoriaeth a dathlu eu llwyddiant.  Mae’r gwaith mae Bocsŵn yn ei gyflawni yn hanfodol i waith y Fenter ym Môn, ac mae’n fraint cael gweithio gyda chriw o bobl ifanc, talentog a brwdfrydig i greu to ifanc o gerddorion sy’n hawlio’u lle yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg!”

6