Mae sawl prosiect dros y wlad wedi dangos bod ymgysylltiad rhwng plant bach a’r henoed yn gwneud lles i’r ddwy garfan o oedran mewn sawl ffordd.
Hyfryd felly yw gweld rhai o’r Mentrau Iaith yn mynd ati i gynnal prosiectau a digwyddiadau i ddod a’r cenedlaethau hyn ac ifanc ynghyd er mwyn defnyddio’r Gymraeg a mwynhau gyda’i gilydd.
Estyn Croeso
Deilliodd grŵp Estyn Croeso o’r cynllun peilot Caffi Stori, sef grŵp o bobl o bob oed oedd yn cyfarfod i gymdeithasu gyda phwyslais ar ddefnyddio’r Gymraeg. Oherwydd llwyddiant y fenter honno mae’r criw wedi parhau i gyfarfod yn fisol yn Neuadd Bentref Treuddyn o dan enw newydd, Estyn Croeso; gyda’r mynychwr ieuengaf ond ychydig fisoedd oed a’r hynaf bron yn 90 oed.
Gyda chymorth un o brosiectau Menter Iaith Fflint a Wrecsam, y Prosiect Datblygu Cymunedau Dwyieithog, mae grŵp Estyn Croeso bellach wedi sefydlu pwyllgor cymunedol swyddogol ac yn bwriadu trefnu nifer o ddigwyddiadau cyffrous a hwyliog dros y flwyddyn nesaf. Ar Ddydd Gwener, 16eg o Awst fe gynhaliwyd prynhawn hwyl Estyn Croeso yn Neuadd Bentref Treuddyn, sef digwyddiad i ddod â’r hen a’r ifanc ynghyd. Mae gweithgareddau eraill eisoes wedi’u trefnu ar gyfer y flwyddyn i ddod gan gynnwys Te Prynhawn ar ddechrau mis Medi. Dywedodd un o fynychwyr Prynhawn Hwyl Estyn Croeso;
“Dwi’n falch iawn o weld y neuadd yn llawn prysurdeb gyda’r plant bach yn mwynhau, a’r mamau yn dod i nabod ei gilydd a sgwrsio.”
Cydweithio ysgolion a chartrefi