Mae gwirfoddolwyr yn rhan greiddiol o waith llawer iawn o elusennau a mudiadau eraill. Maen nhw’n bresenoldeb gwerthfawr mewn nifer o gymunedau, ac maen nhw’n gwneud gwahaniaeth mewn mannau mor amrywiol â chlybiau chwaraeon, llyfrgelloedd, ysgolion ysbytai, yr Urdd, Clybiau Ffermwyr Ifanc, Cylchoedd meithrin a Mentrau Iaith.

Dros y deuddeg mis diwethaf, wrth i gymunedau, cymdogion ac unigolion ymateb i’r coronafeirws a chyfnodau glo, daeth gwirfoddolwyr yn rhan o weithgareddau fel siopa am fwyd a danfon pecynnau bwyd, casglu a danfon eitemau o fferyllfeydd, mynd â chŵn am dro a bod yno i bobl eraill.

Mae ymgyrch flynyddol, Wythnos Gwirfoddoli, a sefydlwyd yn 1984, yn cydnabod y cyfraniad mae gwirfoddolwyr yn ei wneud yn ein cymunedau bob dydd. Eleni, rhwng 1-7 Mehefin, mae rhoi cydnabyddiaeth o’r fath i wirfoddolwyr yn parhau i fod yn hollbwysig. Bydd elusennau ledled y DU yn rhannu negeseuon i ddiolch i’w gwirfoddolwyr ac i ddathlu grym gwirfoddoli o ran dod â chymunedau at ei gilydd a bod yno pan fo angen.

Mae Matty Minshull, 18 oed o Henllan, yn gwirfoddoli gyda Menter Iaith Sir Ddinbych ers mis Ebrill. Meddai Ruth Williams, Prif Swyddog y Fenter: “mae cefnogaeth gwirfoddolwyr ifanc fel Matty yn amhrisiadwy, yn arbennig i elusennau bach fel y Mentrau Iaith – Diolch o galon i bob un! Ar yr un pryd, mae cyfleoedd gwirfoddoli yn gallu rhoi profiadau defnyddiol i unigolion, ac rydym yn falch iawn o fod wedi gweld sawl gwirfoddolwr ifanc yn mynd ymlaen i gael gwaith a gyrfaoedd cyffrous.”

Dewch i helpu’r Mentrau Iaith heddiw! Clicia yma i weld sut elli di ddod yn rhan o’r teulu.