Am yr ail flwyddyn yn olynol cynhelir Gŵyl Gwenllian ym Methesda a’r cyffiniau gyda digwyddiadau amrywiol rhwng dydd Iau 10feda dydd Sul 13eg o Fehefin 2021.

Yn sgil y llacio ar reolau cymdeithasol, bydd sawl gweithgaredd wyneb yn wyneb. Yn eu plith bydd gweithdy celf a llenyddiaeth i blant, cyflwyniad i hanes y dywysoges Gwenllian gan y Prifardd a’r hanesydd lleol, Ieuan Wyn, a thaith o gwmpas olion Garth Celyn – man geni Gwenllian –yng nghwmni’r archeolegwr Rhys Mwyn.

Hefyd, cynhelir gig byw yn Neuadd Ogwen gyda Gwilym Bowen Rhys ac un o hogia ’‘Pesda, Neil ‘Maffia’ gyda tocynnau ar werth trwy Neuadd Ogwen. Ond bydd angen bod yn sydyn gan mai nifer bychan o docynnau sydd ar gael! Ceir manylion llawn ar dudalen Facebook Gŵyl Gwenllian

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal gan Bartneriaeth Ogwen, Prosiect Tirwedd y Carneddau, Dyffryn Gwyrdd, Neuadd Ogwen, Menter Iaith Bangor a Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd).

Pwy oedd Gwenllian?Y 12fed o Fehefin yw dyddiad geni y Dywysoges Gwenllian, merch Llywelyn ap Gruffydd (‘Ein Llyw Olaf’) a gipiwyd yn fabi o’i chynefin a’i theulu yng Ngarth Celyn (Abergwyngregyn). Treuliodd weddill ei bywyd mewn lleiandy yn Sempringham, Lloegr hyd at ei marwolaeth yn 54 mlwydd oed. Bu farw ar y 7fed o Fehefin. Mae’n annhebygol y byddai wedi cofio unrhyw Gymraeg a sillafodd ei henw fel ‘Wentliane’. 

Ar 26ain o Fedi 2009 ,ailenwyd Carnedd Uchaf yn Eryri yn Carnedd Gwenllian yn dilyn ymgyrch gan Gymdeithas y Dywysoges Gwenllian. Fe saif Carnedd Gwenllian gerllaw Carnedd Llywelyn, Carnedd Dafydd ac Yr Elen, fel cofiant oesol i hanes Tywysogion a Thywysogesau Gwynedd a Chymru. Saif tref chwarelyddol Bethesda wrth odre’r mynyddoedd hyn.