Dathlu’r Pasg yn Gymraeg

Sut fyddwch chi’n dathlu’r Pasg eleni? Helfa wyau? Cinio Sul mawreddog gyda’r teulu? Beth bynnag byddwch yn ei wneud, cofiwch wneud yn Gymraeg.
Beth am rannu’r darlun yma i annog eraill ddefnyddio ychydig o Gymraeg?
Clapio Wyau
Bydd Môn yn dathlu un o’i thraddodiadau hyfrytaf cyn y Pasg wrth i blant yr ynys ymweld â chartrefi yng Ngharreglefn, Brynsiencyn, Llynfaes, Talwrn a Llannerchymedd i glapio am wyau gan bentrefwyr caredig. Yn draddodiadol casglai blant wyau gan ffermwyr hael a’u trosglwyddo i’w teuluoedd er mwyn coginio i ddathlu’r Pasg. Yr un yw’r rhigwm Cymraeg a’r clapiwr pren a ddefnyddir gan y plant heddiw, ond mae’r wyau wedi newid wrth i’r plant ymweld â phentrefwyr i gasglu wyau siocled.
Gallwch ddarllen am fwy o draddodiadau’r Cymry dros y Pasg yma.