Mentrau Iaith Cymru
Mudiad Cenedlaethol sy’n cefnogi rhwydwaith o 22 Menter Iaith ledled Cymru yw Mentrau Iaith Cymru (MIC)
Mae MIC yn cefnogi’r rhwydwaith o Mentrau Iaith trwy amryw o weithgareddau a meysydd, gan gynnwys marchnata a chyfathrebu, hyfforddiant a dylanwadu er budd y Gymraeg. Yn llorweddol i’n gwaith mae’r egwyddor o rannu gwybodaeth, profiadau, syniadau ac adnoddau rhwng y Mentrau Iaith a phartneriaid eraill ar draws Cymru.
Rydym hefyd yn datblygu prosiectau cenedlaethol a rhanbarthol mewn partneriaeth â’r Mentrau Iaith a chyrff eraill. Ewch i’n tudalen Newyddion i gael gwybod mwy.
Yn 2018 derbyniodd MIC Nod Ansawdd PQASSO Lefel 1, sy’n cydnabod trefniadau llywodraethu a rheoli effeithiol mewn mudiadau trydydd sector. Mwy o wybodaeth yma.
Cefnogi’r Mentrau Iaith…
Mae cefnogi’r Mentrau Iaith, eu swyddogion a’u pwyllgorau wrth wraidd ein gwaith. Rydym yn gwneud hyn trwy:
- Ddarparu cyfleoedd i rwydweithio, rhannu gwybodaeth, syniadau a chydweithio trwy amryw o gyfarfodydd, cynadleddau a chyfleoedd hyfforddiant
- Dylanwadu er budd y Gymraeg trwy ymateb i ymgynghoriadau cyhoeddus ar ran y Mentrau Iaith
- Datblygu prosiectau rhanbarthol a chenedlaethol, fel Prosiect Apiau Magi Ann a Chynllun Marchnad Lafur Cyfrwng Cymraeg
- Cynnig cefnogaeth ac arweiniad i’r Mentrau Iaith ar faterion amrywiol, gan gynnwys polisi mewnol, staffio, ymchwil a chyfleoedd datblygu yn y maes cynllunio iaith.
Ceir manylion pellach am rai o’n gweithgareddau isod.
Cynadleddau…
Trefnir dwy gynhadledd flynyddol gan MIC ar gyfer swyddogion y Mentrau. Cynhelir un gynhadledd ar gyfer y Prif Swyddogion a Chadeiryddion y gwahanol Fentrau, a chynhadledd i holl staff y Mentrau.
Rydym hefyd yn trefnu cyfarfodydd Swyddogion Maes yn rhanbarthol dair gwaith y flwyddyn.
Mae’r cynadleddau’n gyfle i swyddogion y Mentrau rwydweithio, dysgu, rhannu gwybodaeth, profiadau ac arfer da.
Hyfforddiant…
Trefnir rhaglen hyfforddiant flynyddol gan MIC ar gyfer swyddogion y Mentrau. O amddiffyn plant i reoli ac arwain, o gynllunio ieithyddol i ddatblygu cymunedol – mae’n rhaglen gyfredol sydd yn ateb anghenion hyfforddiant amrywiol y Mentrau ac yn eu cefnogi i wireddu eu hamcanion.
Rydym yn defnyddio profiad a sgiliau swyddogion profiadol i hwyluso hyfforddiant lle mae’n briodol, a’r gweddill yn gymysegdd o gyd-weithio gyda phartneriaid i ddatblygu rhaglenni perthnasol neu ddefnyddio darparwyr a hwylyswyr hyfforddiant Cymraeg eu hiaith.
Marchnata…
Datblygir Strategaeth Farchnata Genedlaethol gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o waith y Mentrau a hyrwyddo prosiectau sy’n hybu’r Gymraeg ledled Cymru.
Rydym yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol eraill i ddatblygu a chefnogi ymgyrchoedd marchnata sy’n hyrwyddo’r Gymraeg drwy ein Grŵp Marchnata.
Rhan ganolog o weithgarwch marchnata MIC yw ein presenoldeb yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol. Yn ogystal, rydym yn cynnal stondinau mewn cynadleddau a gwyliau, Cymru ben baladr.
Dilynwch ni ar Facebook ac ar Twitter am y newyddion diweddaraf am waith y Mentrau a phrosiectau cyffrous eraill sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo’r Gymraeg.
Cynlluniau Cenedlaethol…
Mae prosiect Marchnad Lafur Cymraeg yn brosiect peilot dwy flynedd sy’n edrych ar ddatblygu’r iaith Gymraeg a’r economi ar y cyd trwy greu ymgysylltiad rhwng sectorau a chwmnïoedd sydd a’r potensial i greu gwasanaethau a chynhyrchion sy’n adeiladu ar sgiliau ieithyddol y Gymraeg. Nod y prosiect sy’n cael ei arwain gan Four Cymru mewn partneriaeth a Mentrau Iaith Cymru yw datblygu’r Gymraeg fel catalydd economaidd fydd yn gyfrwng i ddatblygu cyfleoedd swyddi newydd yng Nghymru wledig.
Cwrdd â'r Tîm
-
Iwan Hywel
Arweinydd Tîm
Hoffi? Rygbi, pel droed, bywyd gwyllt a unrhyw fath o pei.
Ddim yn hoffi? Uchelderau, cwstard wy a technoleg fodern
Pleser mwyaf? Magu 3 mwddrwg bach a chael gweithio’n cefnogi’r Iaith Gymraeg.
Yr her fwyaf? Magu 3 mwddrwg bach a chael gweithio’n cefnogi’r Iaith Gymraeg.
-
Marged Rhys
Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu
Hoffi? Cerddoriaeth, mynd am dro, dysgu technolegau newydd, gwersylla
Ddim yn hoffi? Eistedd mewn traffic dinas, arogl banana mewn car, pobl yn siarad yn ystod ffilm (yn Gymraeg a’i pheidio!)
Pleser mwyaf? Mynd am dro ger y Fenai yng Nghaernarfon ar ddiwrnod braf.
Yr her fwyaf? Darganfod amser i wneud popeth, a chael amser i ymlacio ar y diwedd.
-
Mentrau Iaith Cymru, Yr Atom, 18 Heol y Brenin, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 1BN
Anfon e-bost at Heledd ap GwynforHeledd ap Gwynfor
Cydlynydd Partneriaethau
Hoffi? Teithio – adre’ a dramor, ieithoedd, cerddoriaeth o BOB math, mynydda, coginio, canu corawl, ffilmiau, tynnu lluniau, darllen
Ddim yn hoffi? Difaterwch
Pleser mwyaf? Chwarae ar draeth Llansteffan gyda’r mab
Yr her fwyaf? Magu teulu; cael pawb i ddefnyddio’r Gymraeg wrth gwrs!
-
Mentrau Iaith Cymru, 22 Y Sgwâr, Llanrwst, Conwy, LL26 0LD 01492 643401
Anfon e-bost at Daniela SchlickDaniela Schlick
Cydlynydd Helo Blod Lleol
Hoffi? Rhedeg i gadw’n heini ac i glirio’r meddyliau, cherdded yn y mynyddoedd ac ar lan yr arfordir, canu yng Nghôr Dros Y Bont, nosweithiau cerddorol, trefnu sesiynau cymdeithasol Cymraeg ar gyfer dysgwyr a chael paneidiau a sgyrsiau efo fy ffrindiau a darllen i ymlacio
Ddim yn hoffi? Pobl ddigywilydd a grympi.
Pleser mwyaf? Cerdded fyny mynydd a chofio pam mor lwcus ydw i.
Yr her fwyaf? Ffeindio amser i ymlacio ac atal fy hun rhag gwneud gormod.
-
Mentrau Iaith Cymru, 22 Y Sgwâr, Llanrwst, Conwy, LL26 0LD 01492 643401
Anfon e-bost at Cathryn GriffithCathryn Griffith
Swyddog Datblygu
Hoffi? Celf, cerddoriaeth, pobl a bwyd
Ddim yn hoffi? Talu biliau a llysiau’r bara (coriander!)
Pleser mwyaf? Magu teulu bach
Yr her fwyaf? Cael digon o amser i wneud pob dim a choginio swper call!
-
Mentrau Iaith Cymru, 22 Y Sgwâr, Llanrwst, Conwy, LL26 0LD 01492 643401
Anfon e-bost at Glesni WilliamsGlesni Williams
Swyddog Gweinyddol
Hoffi? Cerdded mynyddoedd a’r arfordir, treulio amser efo plantos bach pwysig fy mywyd, gwylio Friends.
Ddim yn Hoffi? Adar
Pleser Mwyaf? Cerdded yng Nghwmorthin
Yr Her Fwyaf? Peidio poeni
-
Y Bwrdd Rheoli
Management Board
Cynrychiolaeth o bob Menter Iaith sy’n aelodau o MIC.
Gwahoddir pob prif swyddog i’r cyfarfodydd a chroesewir cynrychiolaeth aelod o fwrdd rheoli pob Menter hefyd.
Mae’r Bwrdd Rheoli’n ethol Cadeirydd, Is-gadeirydd a Thrysorydd sy’n gweithredu am ddwy flynedd i arwain y Bwrdd Rheoli a’r Pwyllgor Gweithredol.
Cadeirydd – Lowri Jones (lowrijones@mentercaerffili.cymru)
Is-Gadeirydd – Dewi Snelson (dewi@mgsg.cymru)
Trysorydd – Amanda Evans (menter@broogwr.org)
Lawrlwythiadau
-
Cynllun Corfforaethon 2019-24 (Cymraeg yn Unig)
Our Corporate Plan is a living document and subject to change on a regular basis. For the latest information regarding our work, please get in touch.
-
Cynllun Corfforaethol Mentrau Iaith Cymru (Cymraeg yn Unig) 2016-19
Mae'r ddogfen hon yn un fyw a adolygir yn gyson. Am y wybodaeth ddiweddaraf o ran cynlluniau Mentrau Iaith Cymru, cysylltwch â ni.
-
Adroddiad Blynyddol Mentrau Iaith Cymru (Cymraeg yn Unig) (2019/20)
-
Adroddiad Blynyddol Mentrau Iaith Cymru (Cymraeg yn Unig) (2018/19)
-
Adroddiad Blynyddol Mentrau Iaith Cymru (Cymraeg yn Unig) (2017/18)
-
Adroddiad Blynyddol Mentrau Iaith Cymru (Cymraeg yn Unig) (2016/17)
-
Adroddiad Blynyddol Mentrau Iaith Cymru (Cymraeg yn Unig) (2015/16)