Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei dogfen ‘Safonau arfaethedig mewn perthynas â’r Gymraeg’ ar 6 Ionawr 2014. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn disgwyl y bydd safonau’r Gymraeg mewn cyfraith erbyn Tachwedd 2014. Mae ymchwiliad safonau Comisiynydd y Gymraeg wedi ei seilio ar safonau arfaethedig Llywodraeth Cymru.

Dylid mynd at wefan Llywodraeth Cymru i weld y ddogfen ‘Safonau arfaethedig mewn perthynas â’r Gymraeg’. Gallwch wneud hynny drwy glicio ar y ddolen isod.

http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/140106-consultation-on-standards-relating-to-the-welsh-language-cy.pdf

26 sefydliad sy’n rhan o’r ymchwiliad safonau cyntaf, sef:

• 22 Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol Cymru;
• 3 Awdurdod Parc Cenedlaethol Cymru, a
• Gweinidogion Cymru.

Wrth gynnal yr ymchwiliad bydd Comisiynydd y Gymraeg yn ymgynghori â phob sefydliad perthnasol, y Panel Cynghori, ac â’r cyhoedd. Mae Comisiynydd y Gymraeg am glywed barn cynifer â phosibl o’r cyhoedd yng Nghymru.

Mae holiadur ar y dudalen hon sy’n rhoi cyfle i chi nodi beth rydych yn teimlo sy’n rhesymol i sefydliadau ei wneud a’i ddarparu yn Gymraeg.

Cyfnod yr ymchwiliad safonau
Dyddiad dechrau’r ymchwiliad safonau hwn yw 27 Ionawr 2014.
Bydd yn dod i ben ar 18 Ebrill 2014.