Mae Mentrau Iaith Cymru yn croesawu’r cyhoeddiadau o gefnogaeth ychwanegol tuag at y Gymraeg a wnaed heddiw gan y Prif Weinidog ar lawr y Senedd.  Mae’r adnoddau ychwanegol i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned yn galonogol, ac mae Mentrau Iaith Cymru yn gweld hwn fel cam pwysig ymlaen tuag at gynyddu’r buddsoddiad yn y Gymraeg dros y tymor hir.

 

Yn ystod ei ddatganiad fe ddywedodd y Prif Weinidog bod “gwaith y Mentrau Iaith yn hollbwysig” fel mudiadau sy’n gweithredu i gryfhau’r Gymraeg yn eu cymunedau.  Mae’r Prif Weinidog hefyd yn cyfaddef bod y Gymraeg yn dal i wynebu “heriau anodd a chymhleth.”

 

Mewn ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog dywedodd llefarydd ar ran Mentrau Iaith Cymru: “rydyn ni’n croesawu’r hyn a ddywedwyd gan y Prif Weinidog heddiw.  Mae ei sylwadau yn cadarnhau bod y Mentrau Iaith yn parhau i fod yn bartneriaid allweddol y Llywodraeth”  Ychwanegodd “cytunwn hefyd  a’r Prif Weinidog fod y Gymraeg yn wynebu heriau difrifol a niferus sy’n ymwneud â phob agwedd ar fywyd cymunedol, ac mae angen i’r gefnogaeth a’r buddsoddiad yn y Gymraeg barhau a thyfu dros y tymor hir er mwyn cryfhau seiliau’r iaith yn ein cymunedau.”

 

Mae datganiad y Prif Weinidog yn dilyn sawl adroddiad ac ymgynghoriad a gynhaliwyd dros y 18 mis diwethaf mewn perthynas â’r iaith Gymraeg, gan gynnwys adroddiad a gomisiynwyd gan y Llywodraeth ar waith y Mentrau Iaith.  Yn eu hymateb cyhoeddus i’r adroddiad hwnnw a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2014 mae’r Mentrau Iaith yn datgan eu gweledigaeth a’u hawydd i ddatblygu a chryfhau er mwyn ehangu ar eu gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith gymunedol, gan nodi bod angen £4.8m arnynt dros y tair blynedd nesaf.  Ychwanegodd llefarydd y Mentrau “rydym yn ystyried y datganiadau a wnaed gan y Prif Weinidog heddiw – gan gynnwys datganiad o gyllid ychwanegol o £750,000 i’r Mentrau Iaith dros y ddwy flynedd nesaf – fel camau cyntaf holl bwysig y mae angen i’r Llywodraeth eu cymryd tuag at weithredu’n gadarn er budd y Gymraeg ac mae’r Mentrau eisiau parhau i chwarae rhan ganolig yn y broses o ddatblygu seiliau cryfach i’r Gymraeg yn y dyfodol.”