Fydd Parti Ponty @ Rhondda Cynon Taf mwy anhygoel ac yn fwy nag erioed o’r blaen, yn cynnwys mwy o ddigwyddiadau i bobl o bob oedran i fwynhau.

Yn dilyn llwyddiant Parti Ponty 2018 gyda 16,000 o ymwelwyr, 62 o ddigwyddiadau a 490 o bobl y gymuned ac ysgolion yn perfformio, mae Menter Iaith RhCT wedi dewis i ehangu’r digwyddiad a mynd a’r wyl i gymunedau amrywiol yn Rhondda Cynon Taf. Fe fydd parti’r flwyddyn yma yn cael ei gynnal yn Gartholwg, Pontypridd (Clwb-y-bont), Porth, Treorci ac Aberdâr.

Parti Ponty @ Gartholwg Dydd Sadwrn y 13fed o Orffennaf 10:00yb-4:00yp

Parti Ponty @ Clwb-y-Bont Nos Sadwrn y 13fed o Orffennaf 5:00yp-11:00yh

Parti Ponty @ Porth Nos Sadwrn yr 2il o Awst 7yh-11yh

Parti Ponty @ Treorci Dydd Sadwrn y 14ydd o Fedi 11yb-11yp

Parti Ponty @ Aberdâr yn cael ei gynnal Nos Wener yr 11fed o Hydref 11yb-11yp

Bydd stondinau, gweithdai, cerddoriaeth byw,  perfformiadau ysgolion, Chwaraeon, perfformwyr stryd, gweithgareddau i ddysgwyr, sesiynau celf, sgyrsiau panel a llawer mwy!

Dyma ddywed Einir Siôn, Prif Weithredrwaig y Fenter;

“Mae Parti Ponty yn ŵyl Gymraeg ar gyfer holl gymunedau Rhondda Cynon Taf, llynedd aethon ni â’r ŵyl i ganol tref Pontypridd er mwyn mynd â’r Gymraeg at y bobl, eleni, rŷ’n ni’n mynd â’r ŵyl dros y Sir am yr un rheswm. Mae’n ddatblygiad sydd ag elfen o risg iddi, ond credwn y bydd y risg yn talu ar ei ganfed i drigolion y Sir a’r Gymraeg.  Diolch i Gyngor Sir RhCT am eu cefnogaeth a’u ffydd ynom ni wrth i ni geisio codi proffil y Gymraeg yn y Sir.”

Parti Ponty - A3 Poster-01