Fel mudiadau cymunedol, mae’r Mentrau Iaith yn cael eu harwain gan aelodau gwirfoddol o’r gymuned sy’n rhoi o’u hamser yn hael er mwyn y Gymraeg a’u cymunedau. Heb ein gwirfoddolwyr – y rhai sy’n helpu’n achlysurol, yn arwain clybiau neu’n gyfarwyddwyr – ni fyddai modd i’r Mentrau Iaith fodoli.

Ar Ddydd Rhyngwladol Gwirfoddolwyr, Rhagfyr 5ed 2019, hoffai’r Mentrau Iaith gyhoeddi enwau’r 3 sydd wedi cyrraedd rhestr fer categori Gwirfoddolwyr yng Ngwobrau’r Mentrau Iaith;

Lloyd Evans gwirfoddolwr gyda Menter Bro Ogwr

Lloyd EvansDechreuodd Lloyd ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn Ysgol Gyfun Maesteg. Dewisodd astudio Cymraeg fel TGAU a Lefel A oherwydd ei fod yn falch o’i Gymraeg ac yn mwynhau dysgu ieithoedd. Ar ôl llwyddo yn y Brifysgol, symudodd yn ôl i’r sir a chwilio am gyfleoedd i gymdeithasu yn Gymraeg gyda Menter Bro Ogwr.

Wedi cyfnod o wirfoddoli’n achlysurol gyda’r fenter, ymunodd gyda’r tîm fel gweithiwr ieuenctid. Ar ôl symud ymlaen yn ei yrfa fel cyfieithydd, mae Lloyd yn parhau i wirfoddoli gyda’r fenter fel aelod o’r bwrdd ac erbyn hyn yn gadeirydd y fenter. Mae Lloyd yn awyddus i sicrhau cyfleoedd i’r Gymraeg o fewn y sir ac yn credu’n gryf iawn ym mhwysigrwydd gwaith y Fenter i gyflawni hyn.

 

Catherine Gent – gwirfoddolwr gyda Menter Iaith Caerffili

Catherine GentDaeth Catherine Gent fel rhiant at sesiynau Sblash a Chân y fenter ym mhwll nofio Caerffili. Ar ôl mynychu ddwy waith gyda’i phlant cynigiodd ei hun fel arweinydd gwirfoddol i’r sesiynau. Mae Catherine yn bersonoliaeth bywiog a chyfeillgar sydd yn denu pobl i’r sesiynau, mae ganddi ffordd naturiol o gyfathrebu gyda rhieni a babis. Mae ganddi frwdfrydedd at yr iaith ac at waith Menter Caerffili. Dywed Catherine;

“Cefais gyfle i ddod yn wirfoddolwr gyda Menter Caerffili ym mis Hydref 2018. Rwyf yn arwain eu sesiynau Sblash a Chân yn y pwll yn y Ganolfan Hamdden leol yng Nghaerffili. O ganlyniad rhoddodd yr hyder i mi gychwyn busnes fy hun o’r enw Halibalŵ a chynnig gwasanaeth cerddorol sy’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg i blant ifanc a’u rhieni/gofalwyr. Rwy’n hynod o ddiolchgar iddynt am y cyfle anhygoel hwn.”

 

Bwrdd cyfarwyddwyr Menter Iaith Conwy

Bwrdd MIConwyMae’r fenter yn Sir Conwy wedi enwebu aelodau eu bwrdd i’r wobr i gydnabod eu cyfraniad at ddatblygu cynllun pryniant ac adnewyddu yr Hen Fanc HSBC i fod yn gartref newydd i Fenter Iaith Conwy. Cynorthwyodd aelodau’r bwrdd y Prif Swyddog wrth fynd ati gyda’r gwaith ceisiadau a thendrau a chynnig help llaw, o beintio waliau i osod lloriau.

Dywed Huw Prys Jones, cadeirydd y bwrdd cyfarwyddwyr;

“Dwi ar y bwrdd cyfarwyddwyr ers rhyw ddeg mlynedd rwan ac yn falch iawn o’r cyfle i gyfrannu at gymdeithas ag i wneud gwahaniaeth. O fy safbwynt i yn bersonol mae o’n gweithio’n dda achos mod i’n hunangyflogedig, adref ar fy mhen fy hun, mae’n dda i mi ddod allan i gyd weithio efo gwahanol bobl. Dwi’n lwcus mod i’n gymharol hyblyg efo fy ngwaith fel mod i’n gallu dod i wahanol gyfarfodydd, weithiau ar fyr rybydd.

Mae’n siŵr bod ‘na lot fawr o bobl allan yna buasai’n falch o’r cyfle i wirfoddoli felly’r neges iddyn nhw ydy bod yna lawer iawn o fudiadau buasai’n gwerthfawrogi’ch help yn fawr. Does dim rhaid iddo fod yn bwysau mawr… mae cyfraniad pob awr yn gallu cyfri i waith fel hyn.”

Mae’r enwebai hyn wedi rhoi eu hamser yn wirfoddol i helpu eu menter mewn sawl gwahanol ffordd ac mae eu cyfraniad yn amhrisiadwy. Noddir y categori gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) sy’n cefnogi a chynrychioli’r trydydd sector yng Nghymru ac yn gwerthfawrogi cyfraniad gwirfoddolwyr sy’n gwneud gwaith y Mentrau Iaith yn bosib.

Ynghyd â chategorïau ‘Cydweithio a Phartneriaid’, ‘Digwyddiad’, ‘Technoleg’ a ‘Datblygiad Cymunedol’, bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn Noson Dathlu’r Mentrau Iaith yng Ngwesty’r Marine Aberystwyth ar Ionawr 22ain, 2020. Bydd rhestrau byr ar gyfer y categorïau eraill yn cael eu rhyddhau ym mis Ionawr wrth arwain at y noson fawreddog.

Mae’r Mentrau Iaith yn gweithio i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau dros Gymru a’n ceisio cynyddu’r nifer o siaradwyr i filiwn erbyn 2050 yn dilyn strategaeth Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan:

“Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu henwebu i dderbyn gwobr. Rydyn ni’n buddsoddi dros £2.5 miliwn yn y Mentrau Iaith drwy’r Grant Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg. Heb gymorth gwirfoddolwyr, ni fydd modd i’r Mentrau Iaith gynnig yr amrywiaeth helaeth o ddigwyddiadau trwy Gymru i gyd. Mae’r digwyddiadau ac ymyraethau hyn yn holl bwysig wrth sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg. Diolch i bawb am eu hymroddiad.”

O wirfoddoli’n achlysurol i fod yn aelod o bwyllgor ardal – gallwch ddarganfod y gwahanol ffyrdd o wirfoddoli gyda’r Mentrau Iaith drwy fynd i’n tudalen Gwirfoddoli