Gyda gwirfoddolwyr yn rhan fawr o’r 22 Menter Iaith yng Nghymru, rydym eisiau dathlu’r gwaith caled mae’r gwirfoddolwyr yn ei wneud i’r gymdeithas Gymraeg.

Bydd ymgyrch #GwirfoddolwyrYGymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol yn cydnabod yr holl wirfoddolwyr sy’n helpu i gynyddu’r defnydd o’r iaith yn y gymuned.

Dywed Marged Rhys, Swyddog Datblygu Mentrau Iaith Cymru;

“Mae gwirfoddolwyr yn rhan mor bwysig i unrhyw gymuned. Weithiau tydi pobl ddim yn sylweddoli eu bod yn gwirfoddoli, boed drwy fod yn rhan o gyngor cymuned, yn stiwardio mewn digwyddiadau, neu’n arwain corau. Rydym am ddefnyddio Diwrnod Gwirfoddoli Rhyngwladol i ddathlu’r gwaith mae’r bobl hyn yn ei wneud i’n cymunedau gyda’r ymgyrch #GwirfoddolwyrYGymraeg ac annog mwy o bobl i fynd ati i wirfoddoli, boed gyda’u Menter neu beidio, gyda’r fideo yma.”