Yn mis Mawrth 2021 lansiwyd gwefan newydd ar gyfer yr holl Bapurau Bro Cymraeg www.papuraubro.cymru. Bwriad y wefan yw creu un man canolog lle gall ddarllenwyr hen a newydd ddarganfod gwybodaeth am yr holl Bapurau Bro Cymraeg. 

Mae’r wefan yn cynnig gwybodaeth gyswllt a mwy ar gyfer pob un o’r 58 o Bapurau Bro Cymraeg ar draws Cymru a Lloegr sy’n dod â newyddion a gwybodaeth leol i’w cymunedau. Gallwch ddefnyddio map interactif y wefan  i ddarganfod pa bapur bro sydd ym mha ardal.  

Dywed Dylan Lewis, cadeirydd Papur Bro Clonc (ardal Llanbedr Pont Steffan): Ry’n ni wedi bod angen un o rhain ers blynyddoedd. Mae’r Papurau Bro yn gwneud gwaith anhygoel ym mhob ardal drwy Gymru, ond mae hefyd yn braf iawn cael y teimlad ein bod yn rhan o rywbeth mwy.”  

Mae’r Papurau Bro yn cael eu rhedeg gan dimau o wirfoddolwyr. Fel rhan o’r wefan, bydd llwyfan i wirfoddolwyr y Papurau Bro rannu adnoddau a chyfathrebu. 

Dywed Heledd ap Gwynfor o Fentrau Iaith Cymru [MIC]: Ryn ni‘n falch iawn o fod wedi gallu cefnogi’r Papurau Bro drwy weithio ar y prosiect hwn. Gobeithiwn bydd y wefan hwn yn helpu i greu seilwaith i‘r Papurau Bro allu symud ymlaen gyda’i gilydd a datblygu mewn cyfnod lle mae presenoldeb ddigidol mor bwysig.” 

Ariennir y Papurau Bro yn rhannol gan Lywodraeth Cymru fel rhan o grant Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg. Mentrau Iaith Cymru sydd yn gweinyddu grantiau’r Papurau Bro, gan drefnu cyfarfodydd a chyfleoedd ymgysylltu i rwydwaith y Papurau Bro yn genedlaethol. 

Dywed Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: “Mae Papurau Bro yn chwarae rhan bwysig mewn cymunedau ledled Cymru, ac mae technoleg hefyd yn elfen hollbwysig wrth inni anelu at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae angen bachu ar gyfleoedd a thaclo heriau technolegol, felly rwy wrth fy modd i weld y wefan newydd yn datblygu, fydd yn hwb i’r Gymraeg yn lleol ac yn genedlaethol.” 

Mae perthynas adeiladol wedi ei greu rhwng Mentrau Iaith Cymru â Bro360, cynllun sy’n darparu gwefannau bro i gymunedau. Trefnwyd hyfforddiant ar y cyd gan MIC a Bro360 ar gyfer gwirfoddolwyr y Papurau Bro yn ystod mis Mawrth 2021. Dywed Lowri Jones ar ran Bro360: Ry’n ni’n falch bod Bro360 wedi gallu helpu papurau bro i barhau i gyhoeddi yn ystod cyfnod heriol Covid. Edrychwn ymlaen at helpu’r papurau i ddatblygu ymhellach trwy gynnig arbenigedd cwmni Golwg ym maes newyddiaduraeth annibynnol i gynnal tair sesiwn hyfforddiant i gyfranogwyr y papurau bro dros yr wythnosau nesa.”