Mae Menter Caerdydd yn falch o gyhoeddi ar ôl llwyddiant ysgubol y digwyddiad eleni, bydd Gŵyl Tafwyl 2020 yn cael ei chynnal dros benwythnos 19 – 21 o Fehefin 2020; ac yn symud i gartref newydd ym mhrydferthwch Parc Bute, dafliad carreg tu ôl i Gastell Caerdydd. Bydd Tafwyl 2020 yn agor ei drysau unwaith eto ar y nos Wener.

Dywed Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:

“Mae Tafwyl sydd wedi tyfu’n un o’r penwythnosau mwyaf poblogaidd yng nghalendr digwyddiadau Caerdydd yn llwyfan rhagorol ar gyfer y Gymraeg a diwylliant Cymru. Mae’n denu ymwelwyr o bob cwr o Gymru, y DU, Ewrop a gweddill y byd ac yn cynnig cyfle rhad ac am ddim i fwynhau cymysgedd eclectig o gerddoriaeth, llenyddiaeth, drama, comedi a chelf. Mae’r gweithgarwch yn adlewyrchu iaith fyw a deinamig ac yn awgrymu dyfodol disglair i ddiwylliant Cymru.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod y Gymraeg wedi’i hymgorffori ym mywyd pob dydd y ddinas – o’i hysgolion i’w henwau stryd – rydyn ni’n credu bod y Gymraeg yn ganolog i’r ddinas hon, felly rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi medru gweithio gyda’n partneriaid i ddod o hyd i gartref newydd i Tafwyl ym Mharc Bute. Cartref fydd yn caniatáu i’r Ŵyl dyfu a ffynnu.

“Yn debyg iawn i’r Gymraeg yng Nghaerdydd, mae Tafwyl wedi ffynnu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac edrychaf ymlaen gyda phleser mawr i groesawu a mynychu Tafwyl 2020 yn y lleoliad newydd.”

Heddiw hefyd, cyhoeddir Adroddiad Gwerthuso Tafwyl 2019 sy’n nodi ymateb anhygoel ein cynulleidfa i’r Ŵyl a agorodd ei drysau am y tro cyntaf eleni ar y nos Wener. Gwelwyd perfformiadau gan dros 60 o fandiau ac artistiaid gorau Cymru ar lwyfannau; trefnwyd sesiynau comedi, llenyddiaeth, a thrafodaethau i ddathlu diwylliant cyfoes, rhaglen i ddysgwyr, gweithgareddau i blant, llwyfan perfformio a dros 30 o ddigwyddiadau ffrinj ar hyd a lled Caerdydd yn ystod yr wythnos yn arwain at y penwythnos.

Mae Tafwyl yn bartneriaeth gref rhwng y sector gyhoeddus, preifat a gwirfoddol sy’n cydweithio er mwyn creu digwyddiad Cymraeg a Chymreig hyderus a chyfeillgar, am ddim, ynghanol Prifddinas Cymru.

Dywed Eluned, AC, y Gweinidog dros yr Iaith Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol:

“Mae Tafwyl yn ddigwyddiad teuluol gwych sydd wedi mynd o nerth i nerth. Ychwanegodd y nos Wener eleni ddimensiwn newydd i Tafwyl, ac fel digwyddiad mor hygyrch, mae’n llwyfan gwych i ddysgwyr a siaradwyr sydd ddim yn medru’r Gymraeg i ddysgu’r iaith wrth brofi diwylliant Cymru yng nghanol prifddinas Cymru. ”.

Roedd 98% o’r gynulleidfa o’r farn bod yr Ŵyl yn cael effaith bositif ar y Gymraeg, 95% yn meddwl bod yr adloniant yn rhagorol, a 95% am ddychwelyd yn 2020.

Dywed Manon Rees O’Brien, Prif Weithredwr Menter Caerdydd:

“Mae cerddoriaeth, celfyddyd a diwylliant yn ffyrdd gwych i ddod â phobl at ei gilydd i gymdeithasu a mwynhau, boed yn siaradwyr Cymraeg rhugl, y rhai llai hyderus, dysgwyr a’r di-gymraeg. Mae’n uno cynulleidfa gan gynnig mynediad i bawb at y Gymraeg yn ein Prif Ddinas. Does unlle yn fwy amlwg na Tafwyl i ddangos hyn – sy’n ddathliad blynyddol balch iawn o’n hiaith.”

Dros y misoedd nesaf bydd y gwaith o sicrhau cefnogaeth ariannol a threfnu cynnwys cyfoes, arloesol ac apelgar mewn lleoliad newydd yn flaenoriaeth i dîm cynhyrchu Tafwyl.

Bydd cyhoeddiadau cyffrous pellach dros y misoedd nesaf.