*Swydd Wag* Swyddog Maes Digidol

TROSOLWG
Mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn chwilio am unigolyn i weithio ar gynllun i gefnogi pobl di-waith i chwilio am swyddi ar-lein. Mi fydd y person delfrydol yn hunan ddisgybledig a brwdfrydig.
Cyflogwr: Menter Gorllewin Sir Gâr
Cyflog: £20,540 – £24,657
Dyddiad Cau: 07/01/2019 (20 diwrnod)
Amser Cau: 09:00:00
LLEOLIAD
Menter Gorllewin Sir GârSir Gaerfyrddin, Cymru SA38 9DXGWYBODAETH GYSWLLT
Enw Cyswllt: Dewi Snelson
Ffôn: 07779585386
E-bost: danfonwch e-bost
DISGRIFIAD
Mae’r Menter Gorllewin Sir Gâr yn gweithredu cytundebau i redeg sesiynau digidol ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau. Prif nod y gwaith fydd i weithio gyda’r di-waith i’w cefnogi i chwilio am swyddi. Mae’r gwaith yn cynnwys eu cynorthwyo i ddefnyddio cyfrifiadur, cofrestru ar wefannau chwilio am swyddi, creu cyfri e-bost, creu CV ac unrhyw elfen arall o chwilio am swydd ar lein. Rydym yn rhedeg sesiynau yn Sir Gâr, Ceredigion, Abertawe, Castell Nedd, Port Talbot a Sir Benfro.
CYFRIFOLDEBAU’R SWYDDOG
• Cydweithio gyda’r swyddogion eraill er mwyn darparu gweithdai digidol gan gynnwys
Sgiliau Cyfrifiadurol
Cofrestru ar wefannau chwilio am swyddi
Creu e-bost
Uwch lwytho dogfennau
Creu CV
• Cadw cofnod o fynychwyr a’r hyn maent wedi cyflawni
• Cyfathrebu a cydweithio gyda’r Canolfannau Byd Gwaith
• Gweithredu blaenoriaethau cyllidwyr yn unol â’r galw
Bwydwch y cyfeiriad isod i’ch porwr i gael rhagor o wybodaeth:
http://lleol.cymru/c…/swyddog-maes-digidol5c17fa0f617b7.html