*SWYDD WAG* Swyddog Gweinyddol Mentrau Iaith Cymru *Ail hysbyseb* (Rhan NEU lawn amser)
Mae Mentrau Iaith Cymru yn chwilio am berson trefnus a brwdfrydig i weithio fel gweinyddydd er mwyn cynorthwyo’r mudiad i ddatblygu a chefnogi’r Mentrau Iaith.
Cyflog: £17,681-£18,672 y flwyddyn
Oriau gwaith: Swydd llawn amser (37 awr yr wythnos ), ond yn fodlon ystyried ceisiadau rhan amser ac oriau hyblyg, e.e. 9.30 tan 3.30 am 5 dydd… Os am wneud cais rhan amser, bydd angen i’r ymgeisydd nodi yn union pa fath o batrwm fyddai’n dymuno.
Cytundeb: Blwyddyn yn y lle cyntaf ond gyda’r bwriad o barhad (yn ddibynnol ar gyllid)
Lleoliad: Prif swyddfa’r mudiad yn Llanrwst
Prif ddyletswyddau fydd cefnogi gwaith y prosiect Cymraeg Byd Busnes, delio gyda chyllid, trefnu a chofnodi cyfarfodydd a chefnogi gwaith y rhwydwaith o 22 Menter Iaith ar draws Cymru i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned.
Bydd y person llwyddiannus yn hunan-ddisgybledig, brwdfrydig, yn gyfathrebwr da, gyda sgiliau rhyngbersonol ardderchog ac yn meddu ar y gallu i weithio yn annibynnol ac fel rhan o dîm
Gwneud Cais: Trwy ddychwelyd ffurflen gais at post@mentrauiaith.cymru
Dyddiad cau: 12pm Dydd Gwener, 28ain o Fedi 2018
Am wybodaeth bellach: Cysylltwch ar post@mentrauiaith.cymru 01492 643401
Cyllidir y swyddi gan Lywodraeth Cymru a’r Mentrau Iaith