*Swydd Wag* Swyddog Datblygu Cymunedol Sir Fynwy Menter Iaith BGTM

Ydych chi’n hoffi trefnu gweithgareddau ac yn caru’r Gymraeg?
Mae Sefydliad Elusennol Corfforedig Menter Iaith BGTM (rhif elusennol 1181104) yn chwilio am berson arbennig i adeiladu ar y gwaith o hyrwyddo a datblygu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a wnaed eisoes yn Sir Fynwy.
Cyflog: £21,074 -£23,111 (yn ddibynnol ar sgiliau a phrofiad)
Oriau Gwaith 37.5 awr yr wythnos.
Hyd y Cytundeb: Ariennir y swydd gan Lywodraeth Cymru tan 30ain o Fedi 2021 gyda’r posibiliad o ymestyn y cytundeb yn ddibynnol ar gyllid pellach ar gyfer 2021-2022 ymlaen.
Lleoliad swyddfa’r Fenter
Ystafell L4 Alder Suite, Tŷ Mamhilad C, Llawr Cyntaf Gogledd, Ystad Parc Mamhilad, Pontypŵl, NP4 0HZ
*Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus weithio mewn swyddfeydd ledled y sir ar adegau yn ogystal â gweithio o gartref
Dyddiad Cau: 24 Mawrth 2021
Cyswllt: Thomas Hughes, Prif Swyddog
thomas@menterbgtm.cymru
Ewch i www.menterbgtm.cymru/swyddi am fwy o wybodaeth