*SWYDD WAG* Swyddog Cymunedol Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot

Mae Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot yn chwilio am Swyddog Datblygu brwd ac egnïol i ymuno â’r tîm i hybu a chynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn cymunedau Castell-nedd a Phort Talbot drwy gynnal ystod eang o weithgareddau a phrosiectau.
Cyflog: £18,000 – £20,000 (yn ddibynnol ar brofiad a sgiliau) + cyfraniad pensiwn
Oriau: 37 awr yr wythnos
Dyddiad cau: 28/02/20
Bydd disgwyl i’r sawl a benodir gweithio oriau anghymdeithasol yn unol â galwadau gwaith ar adegau. Cynigir amser yn lle hynny (TOIL) drwy gytundeb â’r Prif Swyddog.
Bydd hefyd angen sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn adeiladu ar y partneriaethau sydd yn bodoli a datblygu’r Fenter ymhellach.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Bethan Davies trwy e-bostio menter@micnpt.cymru neu ffonio 01639 763819.
Cyfweliadau: wythnos cychwyn 09/03/20
Mae Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned.