SWYDD WAG: Prif Weithredwr Menter Caerdydd a Menter Bro Morgannwg

PRIF WEITHREDWR
MENTER CAERDYDD A MENTER BRO MORGANNWG
Yn dilyn penodiad ein Prif Weithredwr presennol i rôl Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, rydym yn chwilio am arweinydd ysbrydoledig sy’n frwdfrydig dros y Gymraeg i arwain y ddwy Fenter yn llwyddiannus i’r cyfnod nesaf gan gynnwys dathliadau 20 mlynedd Menter Caerdydd yn 2018.
Cyflogwr: Menter Caerdydd a Menter Bro Morgannwg
Cyflog: £42,979 – £51,862 (6 Pwynt)
Dyddiad Cau: Dydd Llun 23ain Hydref 2017
Amser Cau: Hanner Dydd
Lleoliad:
Swyddfa Menter Caerdydd, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd.
Gwybodaeth Gyswllt:
Enw Cyswllt: Nia Bennett, Cwmni Adnoddau Dynol effectusHR
Ebost: swyddi@effectusHR.com
Ffôn: 07838 709938
Disgrifiad:
Y Prif Weithredwr sydd, mewn cydweithrediad a’r Byrddau Rheoli, yn gosod cyfeiriad strategol i holl waith y ddwy Fenter ac sy’n gweithredu fel llysgennad dros bopeth mae’n ei gynrychioli. Mae’n gyfrifol am roi arweiniad ac ysbrydoli 12 o staff a sicrhau cyfathrebu effeithiol gyda rhanddeiliaid a gwirfoddolwyr.
Mae croeso i chi gysylltu â Siân Lewis (Prif Weithredwr) ar 07826 000704 neu Sian@MenterCaerdydd.Cymru am sgwrs anffurfiol am y swydd.
Am becyn gwybodaeth a ffurflen gais cysylltwch â swyddi@effectusHR.com