*Swydd Wag* Prif Swyddog Tafwyl, Menter Caerdydd (Cyfnod Mamolaeth)

Dyma gyfle cyffrous i rywun â diddordeb brwd yn y celfyddydau i arwain ar drefniadau Tafwyl am flwyddyn.
Gŵyl flynyddol yr elusen Menter Caerdydd i ddathlu’r iaith, celfyddydau a diwylliant Cymreig yw Tafwyl. Bydd yn cael ei gynnal ar benwythnos 22-23 o Fehefin 2019 (dyddiadau 2020 i’w cadarnhau).
Gyda threfniadau Tafwyl 2019 eisoes ar y gweill mae Menter Caerdydd yn chwilio am unigolyn profiadol, brwdfrydig a deinamig i chwarae rôl unigryw wrth arwain trefniadau 2019 a chreu cynnwys o’r newydd ar gyfer Tafwyl 2020, yn ystod cyfnod mamolaeth y Prif Swyddog presennol.
Bydd yr unigolyn delfrydol yn dod â phrofiadau blaenorol a syniadau newydd ac arloesol, ac yn meddu ar sgiliau creadigol cryf ac angerdd i barhau i ddatblygu Tafwyl, gyda chefnogaeth tîm Menter Caerdydd.
Cytundeb: Cyfnod Mamolaeth – Ebrill 2019 i Fehefin 2020
Cyflog: £30,000 – £32,000 yn ddibynnol ar brofiad
Lleoliad: swyddfa Menter Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Yr Ais, Caerdydd.
Dyddiad Cau: Dydd Llun 18fed o Chwefror am 12pm
Cyfweliadau: Dydd Iau a Dydd Gwener 21ain a 22ain o Chwefror 2019
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda’r Fenter ar 02920 689888