*Swydd Wag* Cydlynydd Prosiect Cymraeg Byd Busnes

Mae Mentrau Iaith Cymru yn awyddus i benodi i’r swydd o gydlynu’r prosiect cyffrous ac arloesol Cymraeg Byd Busnes. Prif ddyletswyddau fydd cydlynu gwaith y swyddogion o fewn y tîm Cymraeg Byd Busnes, datblygu strategaethau hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg i fusnesau mewn amrywiol sectorau a chyfathrebu gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.
Bydd y person llwyddiannus yn gyfathrebwr rhagorol, gyda sgiliau rhyngbersonol ardderchog, yn hunan disgybledig ac yn meddu ar ddealltwriaeth o strategaethau hybu ieithyddol.
Cyflog: £24,657 – £27,358 y flwyddyn
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos.
Cytundeb: Blwyddyn gyda phosibilrwydd o barhad. (Cyfnod prawf o 6 mis)
Lleoliad: Yn ddibynnol ar leoliad yr ymgeisydd llwyddiannus bydd modd trafod pa swyddfa Menter Iaith sydd fwyaf addas. Mae’r swydd yn galw am deithio achlysurol ledled Cymru.
Gwneud Cais: Trwy ddychwelyd ffurflen gais at post@mentrauiaith.cymru
Dyddiad cau: 12pm Dydd Llun, 6ed o Awst 2018
Cyfweliadau: Dydd Mercher, 15fed o Awst 2018
Am wybodaeth bellach: post@mentrauiaith.cymru 01492 643401
Ariennir y swydd gan Lywodraeth Cymru