*SWYDD WAG* 2x Swyddog Datblygu Cymunedau Dwyieithog Menter Iaith Sir Ddinbych RHAN AMSER

Swyddog Datblygu Cymunedau Dwyieithog
MENTER IAITH SIR DDINBYCH
Cytundeb: 2 swydd rhan amser (20 awr yr un) am gyfnod yn diweddu 31 Rhagfyr 2019
Cyflog: £21,910 (pro-rata) + cyfraniad pensiwn o 7%
Oriau: 20 awr yr wythnos
Lleoliad Swyddfa: Dinbych ond sylwer bod rhaid i’r swyddogion deithio o gwmpas Sir Ddinbych felly mae angen iddynt fod â char eu hunain. (Telir costau teithio)
Byddwn yn ystyried cynyddu neu lleihau oriau’r cytundeb, yn ddibynnol ar y ceisiadau a ddaw i law.
Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Llun 25 Mawrth 2019
Cynhelir cyfweliadau yn Ninbych wythnos yn dechrau 1 Ebrill 2019
Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn chwilio am Swyddogion Datblygu Cymunedau Dwyieithog i arwain ar brosiect i sefydlu a chefnogi nifer o grwpiau cymunedol (Pwyllgorau Ardal) fydd yn datblygu rhaglen o weithgareddau penodol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog er budd trigolion yr ardal. Mae’r gallu i ryngweithio a gweithio’n annibynnol yn bwysig. Mi fydd gan y person llwyddiannus brofiad o gyflwyno hyfforddiant a / neu cydlynu gwirfoddolwyr.
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Am sgwrs anffurfiol, mwy o wybodaeth neu i wneud cais cysylltwch â: Ruth Williams, Prif Swyddog 01745 812822 / 07766 505403 ruth@misirddinbych.cymru