Bydd Diwrnod Shwmae Su’mae eleni’n ddiwrnod tra gwahanol i’r arfer. Thema’r diwrnod eleni yw Ar draws y Tonnau| Across the Waves, lle anogwn bobl i ganfod lleoliadau a ffyrdd newydd o ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn a’u rhannu gyda Chymru a’r byd! 

Fel pob blwyddyn arall, hybu’r syniad o ddechrau pob sgwrs gyda shwmae, su’mae yw’r pwrpas. Nod y diwrnod yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb –yn siaradwyr rhugl, yn ddysgwyr neu os ydych yn swil am eich Cymraeg. Ac felly os bydd gyda chi gyfle i wneud hyn yn ddiogel ar ddydd Iau Hydref y 15fed yna tagiwch @ShwmaeSumae i ddangos i’r byd sut fyddwch chi’n dathlu’r diwrnod 

Bydd llysgenhadon gyda ni eleni eto’n rhannu eu profiadau ac yn ysbrydoli gyda’r ffocws eleni ar y Gymraeg yn byw ochr yn ochr ag ieithoedd eraill ein cymunedau gan ddangos bod y Gymraeg yn wirioneddol perthyn i bawb o bob cefndir a chenedl. Bydd storïau’r llysgenhadon yn ymddangos ar Facebook Shwmae Sumae yn ystod yr wythnos –

https://www.facebook.com/ShwmaeSumae/posts/3541602445904097

Fel rhan o’r diwrnod mae Shwmae Sumae, sy’n cael ei redeg gan Fudiadau Dathlu’r Gymraeg yn annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau digidol fel drwy ddefnyddio sianel AM. Mae gan y Mentrau Iaith amryw o weithgareddau wedi eu trefnu ar gyfer dydd Iau, cadwch olwg ar eu cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth neu dilynwch #ShwmaeSumae . Neu beth am ymuno yn y dafarn rithiol gyda’r nos? Mae’r Mentrau Iaith yn cynnal noson arbennig yn Nhafarn y Clo rhwng 8 a 10yh.

Er y cyfyngiadau ar ein gallu i symud o gwmpas a chwrdd yn y cnawd, does dim yn ein rhwystro rhag defnyddio’r Gymraeg wrth siopa, wrth dderbyn a chynnig gwasanaeth, yn y cnawd neu ar-lein, wrth ddysgu ac wrth ymlacio! Felly dyma rhai o syniadau ar beth allwch chi wneud eleni. Cofiwch edrych ar wefan shwmae.cymru am lwyth o adnoddau defnyddiol i’ch helpu.