Diolch i grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru, mae’r ddraig hoffus felen, Selog, a chriw Menter Iaith Môn, yn dathlu dyfarniad grant o £9,980 i ddatblygu tri mwy o apiau poblogaidd Selog, yn ogystal â chyfres o ddigwyddiadau i blant a theuluoedd yng Nghaergybi.

Bydd yr apiau newydd yn cyflwyno: ap ioga plant ag oedolion, ap rhigymau awyr agored a geirfa natur, ag ap arall gyda mwy o ganeuon Cymraeg. Yn ogystal bydd y prosiectYmestyn Gyda Selogyn cynnwys cyfres o gyflwyniadau i ioga a ffitrwydd yn ardal Caergybi a dau drip bws i wneud gweithgareddau awyr agored i deuluoedd o Gaergybi.

Esboniodd Nia Thomas ar ran Menter Iaith Môn:

“Gan mai rhieni di-Gymraeg Caergybi oedd y rhai a alwodd am apiau Selog yn y lle cyntaf, pan fydd y tri ap newydd yn barod, mae’n naturiol i ni ddychwelyd i Gaergybi er mwyn cyflwyno’r apiau newydd. Wrth gwrs, bydd yr apiau Cymraeg di-dâl hefyd ar gael i bawb ar draws Cymru a thu hwnt i’w lawrlwytho ar eu ffonau iphone neu android, neu declynnau ipad a tablet. Rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru am adnabod gwerth yr apiau i gefnogi plant a theuluoedd i gyflawni eu potensial ieithyddol ac i gryfhau gweithgareddau cymunedol awyr agored a’r bwrlwm rhyngweithio Cymraeg sydd yng Nghaergybi.”

Yn 2017, wedi sesiynau stori a chân Cymraeg yn y llyfrgell yng Nghaergybi, gofynnodd rhai rhieni di-Gymraeg am adnodd fyddai’n hwyluso defnyddio Cymraeg gyda’r plant wedi dychwelyd adref. I ateb y galw datblygwyd y ddau ap cyntaf yn 2017, un ap canu caneuon traddodiadol (gyda chyfieithiad i’r Saesneg) ac un ap darllen straeon Cymraeg ‘Alun yr Arth’ a ‘Rwdlan’. Eisoes lawrlwythwyd dros 17,000 o’r apiau hyn ac mae dilynwyr cyfri trydar @SelogAp yn dangos ystod eang o gefnogwyr, gyda thua 75% yn ddysgwyr neu siaradwyr Cymraeg o Gymru, tua 20% o weddill Prydain, a 5% yn ddilynwyr rhyngwladol gan gynnwys yr Ariannin lle siaredir y Gymraeg ym Mhatagonia.

Cynhyrchir yr apiau gan gwmni SbectolCyf, a bydd yr arbenigwraig ioga i blant, Leisa Mererid, yn cyfrannu ei harbenigedd i’r ap ioga. Bocsŵn fydd yn arwain gyda’r caneuon, a bydd yr ap ffitrwydd ac awyr agored yn sicrhau gweithagreddau hwylus yn y Gymraeg yn yr awyr agored, boed yn iard ysgol neu allan yn y coed neu ar y traeth. Fe fydd rhaglen o weithgareddau di-dâl yng Nghaergybi er mwyn i blant a’u gofalwyr fwynhau gweithgareddau Cymraeg newydd, mewn modd trosglwyddadwy i’r teuluoedd barhau yn y cartref. 

Ceir mwy o wybodaeth am Selog yn benodol ar @SelogAp. Mae gwybodaeth ar grantiau Arian i Bawb ar safle we Cronfa Cymunedol y Loteri Genedlaethol.