Ras yr Iaith yn ehangu
Ras yr Iaith yn mynd o nerth i nerth
Mae Ras yr Iaith, yr unig ras drwy’r byd sy’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg, yn ehangu.
Eleni mi fydd y Ras, y trydydd ers ei sefydlu, yn mynd i ardaloedd newydd o Gymru gan ymweld am y tro cyntaf â’r gogledd Ddwyrain a’r de Ddwyrain. Mi fydd y Ras yn cychwyn yn Wrecsam ar Orffennaf y 4ydd a gorffen yng Nghaerffili ar Orffennaf y 6ed gan gynnig tridiau llawn o rhedeg, sŵn, egni a mwynhâd tra’n dathlu’r Gymraeg mewn cymunedau ar draws Cymru yn cynnwys Llanrwst, Bangor, Porthaethwy, Machynlleth, Aberystwyth, Hwlffordd, Dinbych y Pysgod, San Clêr, Caerfyrddin, Llanelli, Rhydaman, Ystradgynlais, Clydach, Pontardawe a Porthcawl.
Mae mudiadau amrywiol ar draws Cymru hefyd yn elwa o’r Ras gan y bydd y nawdd a dderbynnir ar gyfer ei gynnal yn cael ei ddosbarthu ar ffurf grantiau. Rhannwyd yr arian a godwyd gan y Ras ddiwethaf a gynhaliwyd yn 2016, rhwng tua pedwar deg pump o fudiadau Cymraeg ar draws yr ardaloedd yr ymwelwyd â hwy.
Trefnir y Ras gan Mentrau Iaith Cymru a dywed Owain Gruffydd, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru:
“Rydym yn hapus iawn o allu arwain ar y trefniadau er mwyn gwasgaru neges y Ras i lefydd newydd eleni. Yn 2016 fe godwyd dros £42,000 mewn grantiau er mwyn i fudiadau hyrwyddo’r Gymraeg yn eu hardaloedd. Fel rhwydwaith o endidau sy’n bodoli er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau mae’n bleser gweld y ras yn tyfu pob tro ac yn gallu gwneud gwahaniaeth dros Gymru.”
Mae croeso mawr i bawb gymryd rhan yn Ras yr Iaith, yn grwpiau ffrindiau, ysgolion, teuluoedd, mudiadau neu fusnesau a gellir cymryd rhan yn y Ras drwy redeg neu gefnogi ar ochr yr heol, drwy stiwardio, neu drwy noddi cymal o’r Ras.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.rasyriaith.cymru
DIWEDD
Am rhagor o fanylion cysylltwch â: Heledd ap Gwynfor 01239 712934 / Iwan Hywel 01492 643401 e bostiwch heledd@mentrauiaith.cymru / iwanhywel@mentrauiaith.cymru
Nodiadau golygyddol:
Rhestr trefi a chysylltiadau’r ardaloedd hynny isod.
Dyddiad: | Ymweld â thref: | Y Fenter cyfrifol: | Rhif cyswllt y Fenter: |
Gorffennaf 4, 2018 | Wrecsam | Menter Iaith Fflint Wrecsam | 01352 744040 |
Gorffennaf 4, 2018 | Llanrwst | Menter Iaith Conwy | 01492 642357 |
Gorffennaf 4, 2018 | Bangor | Menter Iaith Bangor | 01248 370050 |
Gorffennaf 4, 2018 | Porthaethwy | Menter Iaith Môn | 01248 725700 |
Gorffennaf 4, 2018 | Machynlleth | Menter Iaith Maldwyn | 01686 610010 |
Gorffennaf 4, 2018 | Aberystwyth | Cered | 01545 572350 |
Gorffennaf 5, 2018 | Hwlffordd | Menter Iaith Sir Benfro | 01239 831129 |
Gorffennaf 5, 2018 | Dinbych y pysgod | Menter Iaith Sir Benfro | 01239 831129 |
Gorffennaf 5, 2018 | San Clêr | Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr | 01239 712934 |
Gorffennaf 5, 2018 | Caerfyrddin | Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr | 01239 712934 |
Gorffennaf 5, 2018 | Llanelli | Menter Iaith Cwm Gwendraeth Elli | 01269 871600 |
Gorffennaf 5, 2018 | Rhydaman | Menter Iaith Bro Dinefwr | 01558 825336 |
Gorffennaf 6, 2018 | Ystradgynlais | Menter Iaith Brycheiniog a Maesyfed | 07776 296267 |
Gorffennaf 6, 2018 | Clydach | Menter Iaith Abertawe | 01792 460906 |
Gorffennaf 6, 2018 | Pontardawe | Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot | 01639 763819 |
Gorffennaf 6, 2018 | Porthcawl | Menter Iaith Bro Ogwr | 01656 732200 |
Gorffennaf 6, 2018 | Caerffili | Menter Iaith Caerffili | 01443 820913 |