Pwyllgor Ardal

Mae Pwyllgorau Ardal yn edrych canolbwyntio ar wella’r ddarpariaeth sydd mewn ardal benodol – tref, pentref, dyffryn, bro – i ddefnyddio’r Gymraeg gan ddefnyddio system Gweithredu’n Lleol.

Rhai cyfrifoldebau

  • Mynychu cyfarfodydd
  • Edrych i adnabod anghenion lleol
  • Creu cynllun i ateb yr anghenion e.e. rhaglen ddigwyddiadau

Mae’r cynllun Gweithredu’n Lleol wedi ei greu ar gyfer cymunedau gyda nifer uchel o siaradwyr Cymraeg er mwyn osgoi gostyngiad yn nefnydd yr iaith. Er hyn, gallwch ddefnyddio’r system mewn unrhyw ardal, beth bynnag yw’r darlun ieithyddol, fel sail i’r gwaith o adnabod anghenion a mynd ati i’w hateb. Mae aelod staff o’r fenter leol wedi derbyn hyfforddiant er mwyn cefnogi pwyllgorau ardal newydd neu sydd angen cefnogaeth.