Mae Mentrau Iaith Cymru yn falch o’r cyfle i gyfarfod gyda Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones heddiw i drafod ei syniadau ar gyfer dyfodol y Gymraeg.

Yn dilyn ymweliad anffurfiol gan Carwyn Jones â stondin Mentrau Iaith Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, maent am drafod ymhellach gyda’r Aelod Cynulliad gyda chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg er mwyn cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y dyfodol.

Bydd Mentrau Iaith Cymru yn datgan eu awydd i gryfhau rôl y Mentrau Iaith lleol er mwyn cynyddu nifer o ddefnyddwyr Cymraeg ar draws Cymru gyfan erbyn y cyfrifiad nesaf yn 2021, ac yn trafod sut mae’r mudiadau gwirfoddol yma, sydd yn cael eu rheoli gan eu cymunedau, yn medru cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i wireddu amcanion Strategaeth Gymraeg y Llywodraeth, Iaith Fyw:Iaith Byw.

Dywedodd Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru Penri Williams “Rydan ni yn credu bod angen o leiaf un Menter Iaith ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn cael gwir effaith ar ddefnydd o’r Gymraeg. Yn wir, mewn rhai ardaloedd mwy eang mae angen mwy nag un Menter o fewn ffiniau’r awdurdod lleol er mwyn cynnal cyswllt gyda phobl yn eu cymunedau.”

Ychwanegodd “Rydan ni yn hynod falch o’r cyfle yma i drafod dyfodol y Gymraeg gyda’r Prif Weinidog. Gyda’r holl drafod am y dyfodol yn sgil canlyniadau y cyfrifiad, mae’n amlwg bod angen edrych ar ffyrdd o gryfhau’r gefnogaeth i’r Gymraeg ac edrych ar ffyrdd ychwanegol o weithredu. Mae cydweithio mewn partneriaeth yn hanfodol er mwyn i ni ddylanwadu ar ddefnydd o’r Gymraeg, a chynyddu’r canran sydd yn ei siarad ar gyfer y dyfodol.”

Bydd cynrychiolwyr y Mentrau Iaith yn y cyfarfod yn trafod rhai o’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol gan gynnwys rhoi gwerth economaidd i’r Gymraeg a chynyddu cyfleoedd i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg ledled Cymru.