Ar nos Sadwrn y 9fed o Fehefin 2018 am 7 o’r gloch cynhelir sioe arbennig o’r ffilm yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, gyda sgwrs a chyflwyniad gan ein gwestai arbennig Jayne Francis-Headon. Dim ond merch ifanc oedd Jayne yn ystod streic y glowyr yn 1984 ond roedd ei mam, Hefina Headon, yn aelod blaenllaw a gweithgar iawn o Undeb y Glowyr, Cangen Dulais. Cafodd Hefina ei phortreadu yn y ffilm gan yr actores Imelda Staunton a enillodd wobr Actores Orau mewn Rôl Gefnogol yn y British Independent Film Awards yn ogystal â chael ei henwebu am y BAFTAs a Gwobrau Chlotrudis ymhlith gwobrau eraill.

Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam a Theatr Clwyd yn falch iawn o allu cynnig y cyfle i chi gyfarfod â rhywun oedd wedi byw trwy’r profiad unigryw hwn, a all gynnig golwg bersonol iawn ar y digwyddiadau yn y ffilm gan gynnwys straeon teuluol a phytiau o ffilmiau cartref. Cawn olwg unigryw ar fywyd bob dydd tu ôl i’r ffilm, sut oedd hanes teuluol Jayne wedi plethu’n dynn â hanes y diwydiant a’r undebau ers cenedlaethau, a hefyd sut wnaeth y profiad ei chynorthwyo i dyfu i fyny i fod ‘yn berson ei hun’.

Dywedodd Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam, “Mae gan Jayne brofiad personol o fyw drwy gyfnod cythryblus o newid mawr wnaeth esgor ar rywbeth arbennig iawn. Rydym yn arbennig o falch o’r cyfle i gydweithio â hi er mwyn cynnig profiad hollol unigryw a chyffrous i’r gymuned leol.”

Mae’r ffilm Pride, a ddaeth i’r sgrin fawr yn 2014, yn olrhain hanes grŵp o ymgyrchwyr hoyw a weithiodd i gefnogi teuluoedd y glowyr yn ystod streic 1984, a’r berthynas unigryw a chlos a ddatblygwyd rhyngddynt yn ystod y cyfnod, perthynas glos oedd yn wahanol iawn i unrhyw beth a welwyd o’r blaen.

Cafodd y ffilm ei henwebu am sawl gwobr gan gynnwys Ffilm Orau Prydeinig a Debut Eithriadol gan Ysgrifennwr Prydeinig.

Bydd y digwyddiad dwyieithog hwn yn cynnig cyfieithu-ar-y-pryd ac felly bydd yr un mor addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg.

Poster Pride 2018 (1)