Gŵyl Gymraeg i bawb

Yn dilyn llwyddiant Parti Ponty llynedd lle croesawyd dros 5000 o ymwelwyr, byddwch yn falch iawn i glywed fod yr ŵyl undydd enwog hon yn ôl eleni. Bydd yn digwydd ar ddydd Sadwrn yr 16eg o Orffennaf ym Mharc Ynysangharad rhwng 10am a 7pm.

Mae’r ŵyl sydd wedi ei threfnu gan Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn rhoi llwyfan i gymysgedd o berfformwyr a grwpiau sy’n gweithio’n Gymraeg.

Bydd hefyd yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gasglu gwybodaeth am lawer o wasanaethau a mudiadau Cymraeg sy’n gweithredu yn yr ardal.

Dywed Einir Siôn, Prif Weithredwraig Menter Iaith RhCT,

“Mae’n bleser cyhoeddi bod Parti Ponty yn ôl eto eleni. Profodd lwyddiant ysgubol yr ŵyl llynedd bod lle pwysig i Parti Ponty yng nghalendr blynyddol y Sir.

Rydym wedi ymateb i adborth a gasglwyd llynedd wrth ei datblygu sydd yn golygu y bydd mwy o weithgareddau i blant a phobl ifanc yn ogystal a mwy o stondinau.

Ry’n ni’n disgwyl ymlaen i’ch gweld chi yno yn profi gwir Gymreictod yr ardal mewn diwrnod llawn hwyl a sbri i bawb.”

Eleni bydd yn ddiwrnod teuluol a chymunedol bendigedig gyda llawer o stondinau, cerddoriaeth a gweithdai.

Newydd eleni bydd ardal wyddoniaeth ardderchog a’r gweithgareddau hyfryd i gyd wedi ei selio ar thema treftadaeth diwydiannol yr ardal.

Yn ogystal â hyn bydd ardal greadigol ‘creu’ lle gewch chi gyfle i ddylunio, peintio, lliwio a gludo o fore tan hwyr.

Bydd corau ysgolion lleol yn perfformio trwy’r dydd yng nghanol y dref ac yn yr ŵyl ar y llwyfan berfformio newydd yn y band-stand.

I’r ymwelwyr mwya’ bywiog bydd sleid bownsio!

Os ydych chi dal yn egniol ar ôl hyn i gyd ac awydd dawnsio trwy’r nos bydd noson o adloniant yng Nghlwb y Bont a’r Muni Newydd tan yn hwyr.

Mae’r cyffro ar garlam bobl! Yn y Fenter ac ar hyd y Sir gyda ysgolion wrthi yn barod yn cymryd rhan mewn gweithdai cerddoriaeth a phawb yn mwynhau gweithdai cymunedol sydd i gyd yn arwain i fyny at y diwrnod mawr.

Am fwy o wybodaeth, i wirfoddoli a chymryd rhan, cysylltwch ag Einir Siôn, Menter Iaith RhCT – 01443 407570 / 07974 010291