Mae Parti Ponty yn ôl ym Mharc Ynys Angharad, Pontypridd wedi seibiant o wyth mlynedd. Bydd yr ŵyl undydd enwog hon yn digwydd ar ddydd Sadwrn yr 11eg o Orffennaf rhwng 10yb a 5yp.

Mae’r ŵyl wedi ei threfnu gan Menter Iaith Rhondda Cynon Taf sydd â’u Swyddfa ym Mhontypridd. Bydd Parti Ponty yn rhoi llwyfan i gymysgedd o berfformwyr a grwpiau sy’n gweithio’n Gymraeg yn yr ardal. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gasglu gwybodaeth am lawer o wasanaethau a mudiadau Cymraeg sy’n gweithredu yn yr ardal. Mae’r Fenter wedi trefnu’r digwyddiad gydag ymrwymiad a chydweithrediad eu partneriaid, felly bydd pawb yno!

Dywed Einir Sion, Prif Weithredwraig Menter Iaith RhCT,

“Parti Ponty oedd yr ŵyl undydd Gymraeg gyntaf ac mae ei phoblogrwydd a’i phwysigrwydd yn amlwg ers yr haf cyntaf hwnnw ym 1993. Wedi saib angenrheidiol o wyth mlynedd, mae’ nôl! Mae nifer y ceisiadau am ei dychweliad wedi bod yn aruthrol, a hynny gan Gymry Cymraeg a di-Gymraeg.

Ry’n ni’n falch iawn o ddod â’r ŵyl enwog a phwysig hon yn ôl er mwyn dangos i bobl o bell ac agos yr hyn sydd i’w gynnig gan yr Iaith Gymraeg a Phontypridd.”

Bydd yn ddiwrnod teuluol a chymunedol bendigedig gyda llawer o stondinau, cerddoriaeth a gweithdai gan grwpiau megis Mudiad Meithrin, Addysg oedolion, TYFU, Llywodraeth Cymru, Cymraeg i Oedolion, Coleg y Cymoedd a Mentrau Iaith Cymru. Mae’r Urdd yno gyda’i huned ac ardal chwaraeon fawr lle bydd cyfle i roi cynnig ar dennis, saethyddiaeth, pêl droed neu dennis fwrdd… ac mae’r cyfan am ddim!

Bydd presenoldeb cryf gan BBC Radio Cymru gyda Tommo yn crwydro’r maes trwy’r dydd Lowri Roberts yn cyflwyno yn y Cwtsh a Magi Dodd yn cyflwyno’r llwyfan perfformio, dyma oedd ganddi i ddweud am yr ŵyl;

“Fel merch o Bontypridd ac un sydd wedi mwynhau degau o Barti Ponty’s pan yn iau, ma gweld yr Ŵyl arbennig yma’n dychwelyd i Barc hyfryd Ynys Angharad yn wych. Ma hi’n Wyl sy’n croesawu pawb o bob oed ac o bob cefndir a be bynnag yw safon eich Cymraeg”

Mae ‘Y Bont’ yn babell sy’n targedu oedolion a dysgwyr. bydd yno berfformiadau gan Gôr yr Einion, lansiad llyfrau gan Catrin Dafydd, Jon Gower a Cyril Jones, sgyrsiau, cwis a phanel trafod.

Bydd corau ysgolion lleol yn perfformio trwy’r dydd yng nghanol y dref ac yn yr ŵyl.

Mae Parti Ponty yn rhad ac am ddim ac mae’n cynnwys stondinau bwyd a chastell neidio, felly mae’n addas i bob mamgu a thadcu!