Dyma fydd un o gwestiynau criw o swyddogion y Mentrau Iaith wrth iddynt ymweld â Gwlad y Basg yr wythnos hon.

 

Bydd swyddogion y Mentrau Iaith o bob cwr o Gymru yn cael golwg unigryw ar ddatblygiadau ym maes cynllunio ieithyddol a chymunedol wrth ymweld â Gwlad y Basg yr wythnos hon.

Dydd Llun fe ymwelodd y criw â Phrosiect Ewropeaidd Hitzargiak, prosiect sy’n ceisio adnabod arfer da wrth adfywio ieithoedd lleiafrifol yn Ewrop. Roedd hwn yn gyfle i’r swyddogion edrych ar ffurf i gydweithio â mudiadau yng Ngwlad y Basg ac ar draws Ewrop yn y dyfodol wrth rannu gwybodaeth, gan gynnwys fidios, lluniau, dogfennau a chynlluniau gwaith ar lein fel rhan o’r prosiect.Bottom of Form

Dydd Mawrth fe ymwelodd y criw ag UEMA sef rhwydwaith o gyngohorau lleol sydd yn gweithredu gan ddefnyddio’r Iaith Fasgeg fel eu prif iaith weinyddu, yn ogystal â gweithredu er budd yr iaith yn eu rhaglenni a’u prosiectau.

Gyda’r prynhawn bu cyfle i ymweld â Chanolfan Trochi Mewnfudwyr i ddysgu am yr ymdrechion i gymhathu mewnfudwyr newydd i gymunedau Basgeg yn ogystal ag annog mwy o bobl i ddysgu a defnyddio iaith. Wedi’r cyfarfod hwnnw gwnaeth criw o’r Mentrau sy’n cyd-drefnu Ras yr Iaith eleni gyfarfod â grŵp Korrika (Ras yr Iaith Fasgeg) er mwyn dysgu wrth eu profiadau nhw i ddatblygu’r Ras ymhellach yng Nghymru.

Wrth ymweld â Kontseilua (y mudiad dros hawliau iaith y Basg) yn Donastia dywedodd Meirion Davies, Cadeirydd Cenedlaethol Mentrau Iaith Cymru:

Rydym, o fwriad wedi ymweld â mudiadau a chyrff sydd yn flaengar yng Ngwlad y Basg wrth hyrwyddo’r iaith fel iaith gymunedol.

Gellir gweld yn amlwg bod polisïau cadarn sydd yn annog mabwysiadu iaith a chreu amgylchiadau lle y gall yr iaith gael ei defnyddio’n naturiol yn llwyddo, gan fod cynnydd wedi bod yn nifer y sawl sy’n siarad ac yn defnyddio’r iaith yng Ngwlad y Basg o 22.3% yn 1991 i 27.5% o’r boblogaeth yn 2011.

Mae model y Mentrau Iaith yn fodel nad oes ei debyg yn unman arall yn Ewrop, ac o bosib y byd, o ran hyrwyddo iaith yn gymunedol, ac mae’r daith hon, nid yn unig yn gyfle inni ddysgu wrth eraill ond i eraill weld a dysgu wrth ein profiadau ni yng Nghymru.

Rydym wedi gweld o lygaid y ffynnon sut mae cynllunio bwriadus ar lefel strategol, rhanbarthol a lleol wedi cryfhau sefyllfa’r Iaith Fasgeg a gwn y gallwn efelychu nifer o fodelau tebyg yng Nghymru.