Cynigir diwrnod antur yng Nglan-llyn i deuluoedd ar 5ed o Hydref i gyd-fynd â’r ymgyrch cenedlaethol dathlu’r Gymraeg ‘Shwmae Su’mae!’.

Dywed Nia Thomas, arweinydd Menter Iaith Môn:

“Mwynhau yn y Gymraeg yw ein nôd fel Mentrau Iaith a dyma’r cyfle perffaith i deuluoedd Cymraeg eu hiaith, yn ogystal â theuluoedd ble mae’r plant neu’r oedolion yn dysgu Cymraeg, i gael hwyl wrth fentro yn yr awyr agored. Cawsom adborth gwych gan deuluoedd o bob cefndir ieithyddol yn y gorffennol, wrth iddynt fwynhau ar y llyn ac ar y rhaffau, gan gydweithio, sgrechian a chwerthin i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Mae’r diwrnod yn cynnwys pedwar gweithgaredd dan arweiniad hyfforddwyr profiadol Glan-llyn gan gynnwys rhaffau yn y coed a rhwyfo ar y llyn, cinio swmpus, a bws o Ynys Môn (Caergybi, Llangefni a Llanfairpwll, a drwy gais ar hyd yr A5 i fynychwyr o Wynedd neu Gonwy). Yn ogystal, os yw’n fwy hwylus i deuluoedd o Wynedd, Conwy, Dinbych, Fflint neu Wrecsam, mae croeso iddynt ymuno â’r Diwrnod Teulu wrth yrru yn uniongyrchol i Glan-llyn.

Mae gwersyll yr Glan-llyn, ger y Bala, yn gyrchfan poblogaidd iawn drwy gydol y flwyddyn i blant a phobl ifanc ond dyma gyfle euraidd am drip undydd i gael hwyl yn y Gymraeg i’r plant ac i ddysgwyr gael profiad trochi iaith mewn awyrgylch hwyliog anffurfiol. Cynigir y pecyn cyflawn o weithgareddau antur, bws a chinio am y pris gostyngol o: o £6 i blant dan 4, £19 i blant oed 4-8, £24 i blant oed 9-11, a £29 bobl ifanc ac oedolion. Ceir mwy o wybodaeth gan Menter Iaith Môn drwy e-bostio hanna@mentermon.com neu alw 07703671265 neu drwy swyddfa Urdd Ynys Môn. Cofrestrir y mynychwyr ar sail cyntaf i’r felin, gyda dyddiad cau erbyn dydd Llun 23ain o Fedi.

Nod Menter Iaith Môn yw hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r Gymraeg ym Môn, gan gynnig cyfleoedd a phrofiadau hwyliog yn y Gymraeg i ddatblygu sgiliau personol a chymdeithasol unigolion a’u galluogi i gyfrannu at wead y gymuned. Ceir y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau amrywiol Menter Iaith Môn i bobl ifanc, teuluoedd a chymunedau ar https://twitter.com/MonIaith ac https://www.facebook.com/Menter.Iaith.Mon/ a gwybodaeth am weithgareddau’r Urdd ar yr ynys ar https://www.facebook.com/urddynysmon/.