Mewn gweithdy arbennig a gynhelir yng Nghaernarfon ar Fehefin 28ain, bydd cyfle i drafod rôl y Gymraeg mewn mentrau perchnogaeth gymunedol a sut all hynny gryfhau economi’r wlad. Mae rhai o’r Mentrau Iaith dros Gymru yn arwain y gad ar hybu’r Gymraeg a’r economi trwy sefydlu mentrau cymunedol newydd ac felly mae Mentrau Iaith Cymru yn falch o allu bod yn rhan o’r cynllun a’r digwyddiad hwn.

Fel rhan o gynllun Marchnad Lafur Cymraeg sy’n bwriadu creu ymgysylltiad rhwng sectorau a chwmnïau sydd a’r potensial o ddatblygu gwasanaethau a chynhyrchion lle mae sgiliau ieithyddol  y Gymraeg yn hanfodol,  bwriad y digwyddiad yw i ddeall yn well anghenion y sector Berchnogaeth Gymunedol er mwyn  ystyried gwerth y Gymraeg iddi a sut i’w ddatblygu ymhellach.

Cam cyntaf yw hwn i ddatblygu clwstwr yn y sector Perchnogaeth Gymunedol gan roi’r cyfle i’r prosiect wrando ac ystyried gofynion y sector.

Yn ôl Rhun Dafydd o Four Cymru, sydd yn arwain ar y prosiect Marchnad Lafur Cymraeg, y gobaith yw cael trafodaeth adeiladol am sut all y Gymaeg gael ei defnyddio fel arf economaidd gref,

“Rydym yn gweld bod potensial sefydlu clwstwr o fentrau cymdeithasol sy’n gweld gwerth yn y Gymraeg fel modd o adfywio’r cymunedau trwy gynnig gwasanaeth a chyfleoedd swyddi i’w poblogaeth leol.

“Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i fentrau cymdeithasol  ddysgu mwy am y sector wrth i astudiaethau achos a chynrychiolwyr o sefydliadau’r sector gymryd rhan yn yr amryw sesiynau. Mae hefyd yn siawns i’r mentrau ddod at ei gilydd i rwydweithio ac i rannu arferion da o ddefnyddio’r  Gymraeg fel ased i’w busnes.”

Yn ôl Meirion Davies ar ran Mentrau Iaith Cymru, sy’n bartner ar y cynllun, mae hwn yn gyfle eto i amlygu potensial yr iaith ym myd busnes,

“Wrth ystyried nodau’r prosiect Marchnad Lafur Cymraeg rydym wedi ceisio edrych ar glystyrrau lle gallwn ddefnyddio’r Gymraeg fel catalydd i gryfhau’r economi o fewn ein cymunedau. Mae un clwstwr eisoes yn edrych ar sut all meithrinfeydd gael eu datblygu i fod yn fodelau busnes hyfyw a bydd y digwyddiad hwn wythnos nesaf yn edrych ar botensial mentrau cymunedol.

“Mae sawl menter gymdeithasol eisoes yn defnyddio’r Gymraeg fel rhan o weithredu dyddiol ac mae hyn yn profi bod modd datblygu’r iaith a’r economi ar y cyd ynghyd â’r elfennau  cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd sydd ynghlwm â rhedeg menter.”

“Mae creu mwy o waith cyfrwng Cymraeg yn hanfodol i gyrraedd nod Strategaeth Iaith y Llywodraeth Cymraeg 2050 o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Rhaid cynyddu troedle economaidd y Gymraeg. Rydym yn colli gormod o siaradwyr Cymraeg ifanc oherwydd diffyg cyfleoedd gwaith a chyfleoedd i weithio drwy’r Gymraeg. Bydd y gynhadledd yn neud argymhellion eglur i’r Llywodraeth a’r sut i fynd a’r maen i’r wal yn y maes yma.”

Bydd Meirion, sy’n brif swyddog Menter Iaith Conwy, hefyd yn cyflwyno gwaith y fenter yn ystod y digwyddiad. Mae’r fenter yn gwneud llawer o waith o amgylch iaith ac economi ac wedi llwyddo i sefydlu sawl menter gymdeithasol gan gynnwys meithrinfa a menter yn y sector awyr agored.

Yn ogystal, bydd cyflwyniad gan Owain Gruffydd, Prif Swyddog Menter Bro Dinefwr sydd wedi derbyn grant o’r Gronfa Loteri Fawr yn ddiweddar i adfywio Neuadd Dref Llandeilo i ganolfan amlbwrpas sy’n rhan o gynllun trosglwyddo asedau.

Cynhelir y cyfarfod yn y Galeri, Caernarfon ar ddydd Iau, 28 Mehefin – i gofrestru e-bostiwch marchnadlafurcymraeg@four.cymru neu ewch i http://four.cymru/cy/news/ am wybodaeth bellach. Mae agenda i’w lawrlwytho yma.

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig drwy Lywodraeth Cymru. 

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Deian Creunant ar 01970 636419 / Deian.creunant@four.cymru neu Rhun Dafydd ar 02921 674863 / rhun.dafydd@four.cymru