CONWY A’R RHYFEL MAWR : LANSIO’R ARDDANGOSFA, Y LLYFR A’R WEFAN

Mae ‘Conwy a’r Rhyfel Mawr’ yn brosiect gan Fenter Iaith Conwy a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri sydd wedi bod yn archwilio ac yn ymchwilio’r gwahanol ffyrdd yr effeithwyd ar ardal wledig sir Conwy gan y Rhyfel Byd Cyntaf ers dwy flynedd a hanner. Amrywiai hyn o hanesion unigolion i’r darlun ehangach; yr effaith ar yr iaith Gymraeg ac ar ddynameg gymdeithasol y plwyfi yn ogystal â chynnig cipolwg ar sut lefydd oedd cymunedau’r ardal o ran diwylliant ac agwedd ganrif yn ôl. Nod y prosiect oedd cyfuno gwybodaeth o ffynonellau bodoledig gydag ymchwil newydd dirfaith i greu arddangosfa deithiol, llyfr, gwefan a chynhyrchiad drama. Y gobaith yw bod yr allbynnau yma’n adnoddau gwerthfawr a theilwng, yn cofnodi’r hanesion angof a’u cyflwyno i’r cyhoedd: nid rhywbeth sydd wedi bodoli eisoes yn yr ardal hon.

Un o’r amcanion yw portreadu’r cwympedig fel pobl o’u cymunedau yn hytrach na rhestr o flaenlythrennau a rhifau milwrol — a hyn oll o safbwynt Cymreig yn hytrach nag un filwrol Brydeinig.

Bu’r dasg o geisio olrhain hanesion y dynion (a’r merched) gymerodd ran yn y rhyfel — gyda phwyslais ar y rhai a gollwyd — yn un anferth a di-ddiwedd, a’r her i fesur a chyflwyno’r wybodaeth ynglŷn â’r ôl gadawodd y Rhyfel Mawr ar Gonwy wledig yn un anoddach fyth. Ond, gyda chymorth adnoddau gwych y wê a chyfraniadau degau ar ddegau o bobl leol rwyf wedi datblygu casgliad aruthrol o wybodaeth.

Cafodd yr arddangosfa, y llyfr a’r wefan eu lansio ar nos Iau Tachwedd 16eg yng Ngwesty’r Eryrod, Llanrwst, gyda Tecwyn Ifan yn canu.

Bydd yr arddangosfa yn teithio ledled ardal wledig y sir am bron i ddeufis.

Dywed Eryl Prys Jones, awdur y llyfr a chydlynnydd y prosiect;

“Mwynheais y broses o ymchwilio hanesion Rhyfel Mawr holl blwyfi gwledig y sir yn aruthrol — a chael dod i adnabod rhannau o’r sir bu braidd yn anhysbys i mi yn flaenorol, ac wrth gwrs, cael cyfarfod llwyth o bobl garedig a diddorol. Teimlad braf yw gweld fy enw ar y clawr! Ac rwy’n edrych ymlaen at deithio o amgylch yr ardal yn ei gyflwyno, ynghyd â’r arddangosfa a’r wefan, a gobeithiaf yn arw fy mod wedi gwenud cyiawnder i’r pwnc helaeth hwn!”

Argraffwyd ‘Conwy Wledig a’r Rhyfel Mawr’ (sy’n crynhoi hanesion Rhyfel Byd Cyntaf yr ardal) gan Wasg Carreg Gwalch. Yn ogystal â bod ar gael (yn rhad ac am ddim) yn ystod y daith, bydd copïau hefyd ar gael o swyddfa Menter Iaith Conwy, llyfrgelloedd y sir, a sawl lleoliad arall.

Am fwy o wybodaeth, yn ogystal ag elfen ryngweithiol o’r arddangosfa ewch i’r wefan newydd www.conwyrhyfelmawr.org 

poster taith arddangosfa copy update