Mae Menter Iaith Conwy yn chwilio am syniadau ar sut i ddefnyddio hen neuadd yn nho eu pencadlys ar sgwâr Llanrwst.

Eisoes maent wedi addasu dau lawr cyntaf adeilad hen fanc HSBC yn y dref yn swyddfeydd i Menter Iaith Conwy, Cyfieithu Cymunedol a Mentrau Iaith Cymru yn ogystal â chwmni Pensaer Codi.cyf. 

Ond mae yna hen neuadd arbennig sydd wedi bod ynghudd am o leiaf 60-70 mlynedd pan oedd y lloriau oddi tano’n cael eu defnyddio fel banc.

Bellach, gan fod Menter Iaith Conwy yn berchen yr adeilad, hoffai’r fenter ei ail-agor yn ôl i’r cyhoedd. Maent yn gweithio efo tîm o benseiri a peirianwyr i weld be sydd yn ymarferol bosib i’w ddatblygu.

Roeddent wedi bwriadu cynnal nifer o ddiwrnodau cyhoeddus i’r cyhoedd gael ei gweld, ond oherwydd Cofid roedd rhaid eu ohirio. Felly erbyn hyn maent wedi creu fideo a fydd yn rhoi syniad da i bobl o natur a golwg y gofod a gadael sylwadau a llenwi holiadur. Bydd hefyd modd i bobl wneud trefniadau i alw mewn fel unigolion neu grwpiau bychan i cael gweld y gofod a datgan eu syniadau.

“Ein gobaith yw y gallwn drawsnewid y Neuadd i fod yn ofod llawn bwrlwm lle fydd y Gymraeg yn rhan annatod ohoni a fydd yn cynorthwyo i adfywio canol tref Llanrwst,” meddai prif weithredwr Menter Iaith Conwy, Meirion Davies.

“Unwaith y byddwn wedi cael syniadau y cyhoedd ac wedyn addasu a datblygu  cynlluniau i weld beth fydd cost y datblygiad byddwn yn dechrau gweithio ar geisiadau ariannol i gwblhau’r gwaith atgyweirio. Byddai’n wych clywed gan unrhyw un sydd hefyd yn cofio mynd i’r neuadd cyn iddi gael ei chau i’r cyhoedd.”

Cyswllt meirion@miconwy.cymru / 07824 808238