Mae Menter Iaith Bro Ogwr yn cynnal Parti Pen-blwydd ar nos Sadwrn 26ain o Hydref i ddathlu. Bydd y dathlu a’r mwynhau yn cael ei gynnal yn Ystafell Rafters, Clwb Rygbi Caeau’r Bragdy, Pen-y-bont 7:30yh tan 11:30yh. Fydd y noswaith yn dechrau a seremoni gwobrwyo i unigolion sydd wedi bod yn gysylltiedig a’r Fenter dros y blynyddoedd. Bydd hefyd perfformiad byw gan Alys Williams o ‘The Voice’ a Gildas. Mwynhewch eich noson Menter Bro Ogwr a llongyfarchiadau ar gyrraedd y garreg filttir.