Ar Chwefror 15fed, 2018 cyhoeddod Menter Bro Dinefwr eu wedi bod yn llwyddiannus gyda chais am arian i ddatblygu canolfan gymunedol a phrosiect gwerth dros £2 filiwn yng nghanol tref Llandeilo.

Drwy raglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT2) y Gronfa Loteri Fawr, mae’r Fenter Iaith a datblygu cymunedol, sydd wedi ei sefydlu ers 1999, wedi derbyn £1.1 miliwn tuag at y prosiect. Bydd y prosiect yn adnewyddu Neuadd Sirol Llandeilo a throi’r adeilad hynafol a hanesyddol hwn yn ganolfan gymunedol gyfoes a hygyrch i bawb, a fydd yn gyfleuster newydd ar gyfer trigolion lleol ac ymwelwyr. Mae’r adeilad mewn lleoliad delfrydol ac ardal brysur yng nghanol tref farchnad Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd y ganolfan yn cynnig ystod eang o wasanaethau a darpariaethau ar gyfer pobl o bob oedran a chefndir. Bydd yn cynnwys swyddfeydd i Fenter Bro Dinefwr, siambr a swyddfa ar gyfer Cyngor Tref Llandeilo, canolfan dreftadaeth a diwylliant, gwagle ar gyfer arddangosfeydd a siopau ‘pop up’, swyddfeydd, ystafelloedd cyfarfod a hyfforddi, a chanolfan gynadleddau gydag offer sain, cyfleuterau fideo gynadledda ac offer cyfieithu ar y pryd.

Dywedodd Owain Gruffydd, Prif Weithredwr Menter Bro Dinefwr:

“Mae hwn yn newyddion arbennig, nid yn unig i Fenter Bro Dinefwr ond hefyd i dref Llandeilo a’r ardal ehangach. Mae’n un o’r buddsoddiadau cymunedol mwyaf erioed i’r ardal a bydd yn datblygu un o adeiladau hynaf y dref yn ganolfan gymunedol bydd yn agored i bawb. Bydd hefyd yn cyfrannu’n gadarnhaol at ddatblygiad economaidd, cymunedol a ieithyddol.”

Ychwanegodd:

“Mae sefydlu canolfan yng nghanol y gymuned wedi bod yn ddehead gan y Fenter ers blynyddoedd, ac mae’r holl waith gan y staff, gwirfoddolwyr a’r tim proffesiynol wedi talu ar ei ganfed. Mae ein diolch yn fawr i nifer o bartneriaid, yn enwedig i Gyngor Tref Llandeilo a Chronfa’r Loteri Fawr, am wneud y cyfan yn bosib.”

Dywedodd y Cynghorydd Sir lleol, Edward Thomas, sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect o’r dechrau;

“Bydd y ganolfan yn ddatblygiad gwych i Landeilo a’r ardal gyfan, ac mae’r Cyngor Tref yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r Fenter ymhellach ar y prosiect cyffrous yma.”

Bydd Menter Bro Dinefwr yn cymryd cyfrifoldeb dros yr adeilad drwy les hir dymor gan Gyngor Tref Llandeilo, sy’n berchen ar yr adeilad. Gobeithir dechrau ar y gwaith adeiladu yn ystod yr haf, gyda’r nod o agor y ganolfan i’r cyhoedd yn ystod gwanwyn 2019.

Bro Dinefwr