Y Gymraeg

Mae’r Gymraeg i bawb, ar lawr gwlad ac yn ddigidol 

Mae’r Mentrau Iaith yn ganolog i weithredu Strategaeth Cymraeg 2050. Mae’n hynod bwysig bod sefydliadau llawr gwlad megis y Mentrau Iaith a sefydliadau eraill yn cynnwys yr Urdd, Merched y Wawr a chlybiau Ffermwyr Ifanc yn gallu cynnig cyfleoedd i unigolion o bob oed i allu defnyddio’r iaith y tu hwnt i gyfundrefn addysg a’r cefnogaeth i alluogi rhieni i drosglwyddo’r iaith yn y cartref. 

Drwy wahanol weithgareddau a digwyddiadau gyda phobl o bob oed a sefyllfa bywyd, rydym yn rhoi’r cyfle i bobl ddefnyddio’r iaith a thrwy hynny rhannu gwybodaeth o sefyllfa’r iaith a’i chysylltiad gyda hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru. Er hyn, mae’n amlwg nad oes dealltwriaeth digonol gan y Cymry o hanes eu  gwlad, eu treftadaeth leol na chyd-destun i stori’r iaith Gymraeg trwy’r canrifoedd. Er mwyn cefnogi gwaith mudiadau fel y Mentrau Iaith mae’n rhaid cael y Gymraeg yn amlwg mewn elfennau eraill o fywyd cymdeithasol, megis yn y byd digidol ac yn y cyfryngau.  

Ein galwadau 

Technoleg a’r Cyfryngau 

  • Buddsoddi i ddatblygu’r Gymraeg yn y byd technoleg digidol, yn feddalwedd a gweithgareddau, i’w gwneud yn fwy gweladwy a chyrraedd cynulleidfa ehangach 
  • Datganoli darlledu i gyfrifoldeb y Senedd er mwyn sicrhau gwell llwyfan i’r Gymraeg yn y cyfryngau 

Addysg 

  • Sicrhau bod mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg i bawb o fewn pellter rhesymol a chefnogaeth ddigonol i rieni/gwarchodwyr 
  • Cael gwared ar unrhyw rwystrau rhag dysgu’r Gymraeg 
  • Sefydlu fframwaith i addysgu athrawon i ddysgu hanes Cymru a hanes leol trwy safbwynt Cymreig fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru er mwyn gwella ymwybyddiaeth plant o’u treftadaeth 
  • Cyngor gyrfa sy’n cynnwys cyfarwyddyd penodol am y Gymraeg 
  • Cynyddu prentisiaethau drwy’r Gymraeg  
  • Sicrhau fod canran penodol o lefydd ar gyrsiau gradd (megis meddygaeth, nyrsio ac addysg) mewn prifysgolion yng Nghymru yn cael eu pennu i bobl sy’n gallu siarad Cymraeg 

Safonau 

  • Ymestyn Safonau’r Gymraeg i sectorau eraill er mwyn ehangu’r gwasanaethau sydd ar gael yn y Gymraeg 

O brofiad: Y Gymraeg yn ddigidol

Mae gallu’r mudiadau Cymraeg i addasu’n gyflym yn ystod y flwyddyn diwethaf i gynnig yr un gefnogaeth yn ddigidol wedi bod yn syfrdanol. Yn 2020 cafodd pob elfen o fywyd ei effeithio gan Covid-19 ac amlygodd bwysigrwydd technoleg a’r cyfryngau i fywydau pobl o bob oed. Mae’r data isod yn dangos y nifer o weithgareddau digidol i ymwneud â’r Gymraeg a gynhaliwyd gan y Mentrau Iaith yn unig rhwng Ebrill a Medi 2020. Gyda chyrhaeddiad uchel, mae’r Mentrau Iaith wedi gallu cyrraedd cynulleidfa fwy nag erioed o’r blaen gan godi ymwybyddiaeth o weithgarwch Cymraeg gall bobl wneud o gartref. Hyn oll heb golli’r cyffyrddiad lleol a’r cyswllt sydd gan weithwyr y Mentrau Iaith gyda’u cymunedau gan ddarparu gweithgareddau sy’n adlewyrchu diddordebau, hunaniaeth a thafodiaith leol. 

Mae’r niferoedd yn gadarnhaol ond cynhaliwyd y gweithgarwch yn hytrach na gwaith mewn cymunedau oherwydd y cyfyngiadau. Os ydym am weld parhad yn y gweithgarwch digidol yma i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, yn ogystal â’r gweithgarwch wyneb yn wyneb sy’n angenrheidiol ar lawr gwlad, yna mae angen buddsoddi ymhellach.