Ar Dachwedd 26ain mae Mentrau Iaith Cymru yn cyhoeddi dogfen “Y Gymraeg, y gymuned a’r economi leol”, sef Maniffesto’r Mentrau Iaith ar gyfer etholiad Senedd Cymru 2021. 

Bwriad y ddogfen yw gosod galwadau i bleidiau gwleidyddol eu hystyried wrth arwain tuag at etholiad Senedd Cymru 2021. Mae’n gosod safbwyntiau’r rhwydwaith am y Gymraeg, y gymuned a’r economi leol gan gynnwys ystadegau diweddar gan rwydwaith y Mentrau Iaith. Mae’r ddogfen yn rhoi enghreifftiau o brosiectau cymunedol a masnachol y Mentrau Iaith sy’n cyfrannu tuag at gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, i greu cymunedau ffyniannus ac i ddatblygu’r economi leol.

Gallwch ddarllen y ddogfen lawn yma:

Maniffesto Mentrau Iaith Cymraeg

Maniffesto Mentrau Iaith Saesneg English

Crëwyd y ddogfen gan Fentrau Iaith Cymru, mudiad cenedlaethol sy’n cefnogi’r rhwydwaith o 22 Menter Iaith lleol. Cafodd y ddogfen ei chyflwyno i staff rhwydwaith y Mentrau Iaith gan Gadeirydd Mentrau Iaith Cymru, Lowri Jones mewn sesiwn ddigidol ar Dachwedd 16eg, 2020. 

Dywed Lowri Jones; 

Mae cynhyrchu a chyflwyno’r ddogfen yn gam pwysig ymlaen, a’r tro cyntaf i ni fel rhwydwaith gyflwyno’r galwadau hyn yn y ffordd hwn ar draws pynciau sy’n berthnasol i’n gwaith amrywiol ni. Mae’r ddogfen yn ffocysu ar y cysylltiad clir rhwng y Gymraeg, y gymuned a’r economi – themâu sy’n cloriannu gwaith y Mentrau Iaith. Mae’n gyfle gwerthfawr iawn i ddod a rhai o’n syniadau, ein galwadau, a’n blaenoriaethau mwyaf ni at eu gilydd i‘w cyflwyno mewn ffordd cryno ag effeithiol i amrywiaeth o bleidiau gwleidyddol. 

Ymhlith y galwadau i wleidyddion a gweinidogion mae gofyn i fuddsoddi i ddatblygu’r Gymraeg yn y byd technoleg digidol, ymestyn safonau’r Gymraeg, i gydweithio ar raglenni Trechu Tlodi ac i greu rhwydwaith o Swyddogion Mentrau Cymdeithasol i sefydlu gweithleoedd cyfrwng Cymraeg. 

Yn y flwyddyn ariannol diwethaf derbyniodd y Mentrau Iaith gyfanswm o £2.5 miliwn fel rhan o grant ‘Hybu a Hyrwyddo’r defnydd o’r GymraegLlywodraeth Cymru. Llwyddodd y rhwydwaith, drwy gynnal mentrau cymdeithasol, busnesau a phrosiectau eraill, ddenu dros £4 miliwn ar ben grantiau’r Llywodraeth gan greu cyfanswm o bron i £7miliwn o drosiant yn 2019/20. Ariennir 72% o swyddi’r Mentrau Iaith gan ffynonellau tu hwnt i grant Llywodraeth Cymru gyda 254 unigolyn yn cael eu cyflogi ar brosiectau y tu hwnt i waith y grant Hybu a Hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.

Un o’r galwadau pwysicaf sy’n rhan o’r ddogfen yw gofyn am gynyddu isafswm grant pob Menter Iaith unigol i £100,000 ac ychwanegu chwyddiant blynyddol. 

Dywed Lowri Jones;  

Mae gwaith anhygoel yn digwydd i dynnu’r ffynonellau yna i mewn fel ein bod ni ddim yn orddibynnol ar un grant yn benodol a bod ein gwaith ni yn amrywiol iawn ac yn cyffwrdd ar nifer o elfennau o fywyd ein cymunedau ni. Mae’r ystadegau’n dangos gwerth am arian rydym yn cynnig i Lywodraeth Cymru a’r potensial i dynnu mwy o gyllid i mewn i’n cymunedau, a’i fuddsoddi mewn gwasanaethau ar eu cyfer nhw.” 

Yn ystod cyfnod Ebrill i Medi eleni fe gynhaliodd y rhwydwaith dros 6,800 o ddigwyddiadau digidol gyda dros 750,000 yn cymryd rhan yng ngweithgareddau digidol y Mentrau Iaith. Hoffa Lowri Jones ddiolch i holl staff y rhwydwaith am eu gwaith yn ystod y cyfnod hwn 

Mae’r ystadegau yma yn syfrdanol mewn cyfnod mor heriol, a cyfnod lle oedd gofyn ein bod ni’n newid ein dulliau o weithio yn gyflym iawn ac ymateb i sefyllfa oedd yn newid yn gyson hefyd. Diolch yn fawr iawn i’n swyddogion am eich holl waith.”