Seren o Gymru, Cerys Matthews yn gwneud ymweliad annisgwyl

Cafodd Magi Ann ymwelydd arbennig iawn yn ystod un o’i sesiynau Stori a Chân wythnos yma (29ain o Awst). Syfrdanwyd pawb yn Llyfrgell Wrecsam wrth weld mai tywysydd Magi Ann oedd y gantores enwog Cerys Matthews. Daeth Cerys a chamerâu’r BBC i gyhoeddi’r newyddion da, fod apiau Magi Ann wedi ennill y Prosiect Addysg Gorau yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2017.

Bydd y prosiect yn derbyn y tlws a rhodd ariannol o £5,000 mewn Seremoni Wobrwyo arbennig yn Llundain a bydd yn cael ei ddarlledu ar y BBC One ar draws Prydain ar y 27ain o Fedi.

Mae’r Gwobrau mawreddog yn ddigwyddiad blynyddol ac yn gyfle i’r cyhoedd ar draws y Deyrnas Unedig bleidleisio am eu hoff brosiectau a ariannwyd gan y Loteri. Llwyddodd apiau Magi Ann i gyrraedd y rhestr fer allan o dros 1,300 o enwebiadau. Apiau Magi Ann oedd yr unig brosiect iaith Gymraeg i gyrraedd y rownd derfynol.

Meddai Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam:

“Oherwydd eu cysylltiadau agos iawn â’r gymuned leol mae’r Mentrau Iaith mewn sefyllfa unigryw i greu adnoddau addas ar gyfer anghenion yr ardaloedd maen nhw’n gweithio ynddyn nhw. Mae’r wobr hon yn deyrnged i’r gymuned leol yma sydd wedi ein cefnogi ac wedi bod yn gymorth amhrisiadwy wrth wireddu’r prosiect. Hoffwn ddiolch i bawb a bleidleisiodd drosom ni am alluogi ni i gyflwyno’r Gymraeg, sydd yn rhan annatod o fywyd pobl Cymru, i gynifer o bobl ar draws y DU.”

Mae’r apiau bellach wedi cael eu lawr lwytho dros 100,000 o weithiau, yn destament i werth yr adnodd sy’n cael ei ddefnyddio mewn ysgolion a chyda theuluoedd ar draws Cymru a thu hwnt. Mae’r apiau’n cael eu defnyddio ar draws y byd, gyda theuluoedd o Japan i Batagonia ac o America i Sweden yn dysgu darllen Cymraeg gyda Magi Ann a’i ffrindiau.

Dywedodd y gantores, y gyfansoddwraig, yr awdures a’r ddarlledwraig Cerys Matthews:

“Mae’r apiau Magi Ann yn gymaint o hwyl! Maen nhw’n cyflwyno’r llyfrau Cymraeg annwyl hyn i gynulleidfa newydd, gan helpu rhieni a phlant i ddysgu Cymraeg gyda’i gilydd, gan wneud gwahaniaeth mawr i ddysgwyr ar draws Cymru a’r tu hwnt.

Mae gan lawer o siaradwyr Cymraeg atgofion melys o’r llyfrau hyn, a nawr, diolch i’r apiau hyn, gall unrhyw un yn y byd eu mwynhau.

Maen nhw’n haeddu’r Wobr hon – dylai chwaraewyr y Loteri Genedlaethol fod yn falch iawn eu bod wedi helpu’r hudolus Magi Ann.”

Gallwch wylio’r noson wobrwyo YMA