Beth ydy Iaith ar Daith?

Mae Iaith ar Daith yn fis o ddigwyddiadau Cymraeg yn digwydd dros Sir y Fflint a Sir Wrecsam bob mis Mai. Dechreuodd Iaith ar Daith yn 2007 cyn Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug fel wythnos i ddathlu’r iaith Gymraeg yn yr ardal. Wedi llwyddiant yr wythnos fe dyfodd Iaith ar Daith i gynnwys Sir Wrecsam, cyn tyfu eto i fod yn fis cyfan o ddigwyddiadau Cymraeg dros y ddwy sir bob mis Mai. Mae nifer o fudiadau adnabyddus yn cynnal gweithgareddau diddorol yn ystod Iaith ar Daith, gan gynnwys Menter Iaith, Coleg Cambria, Merched y Wawr, a’r Urdd.

iaith ar daith

Beth sy’n digwydd yn Iaith ar Daith?

Mae rhywbeth i bawb yn ystod mis Iaith ar Daith – sesiynau stori i blant bach a’u rhieni, sesiynau sgwrsio i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg, nosweithiau o fandiau Cymraeg yng Ngŵyl Ffocws Cymru, gweithdai clocsio, a mwy!

Mai 2014 061

Amserlen Iaith ar Daith 2017

Mae amserlen gyffrous iawn ar gyfer Iaith ar Daith 2017! Oeddech chi’n gwybod eich bod yn gallu mynd i o leiaf un digwyddiad Cymraeg pob dydd trwy gydol mis Mai yn Sir y Fflint a Wrecsam? Cysylltwch gyda Menter Iaith Fflint a Wrecsam arlein neu ar 01352 744044 am gopi am ddim o’r amserlen, neu cymerwch olwg ar ddigwyddiadau’r Fenter ar Facebook.

Iaith ar Daith 1