Hyrwyddo’r Gymraeg

Serch hynny mae pob un Menter a MIC yn rhannu’r nod o hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn y gymuned.

YsgolBerllanDeg_29Mai 2015_km016Mae ein siarter, a ddatblygwyd ac a mabwysiadwyd ar y cyd â’r Mentrau Iaith yn 2013, yn amlinellu’r egwyddorion a gwerthoedd craidd y mae pob Menter yn eu rhannu, ac mae pob un ohonynt yn ymrwymo i weithredu er budd y Gymraeg yn eu cymunedau trwy:

  • Adfywio’r Gymraeg trwy ddatblygu ein cymunedau
  • Codi hyder siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg i’w defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd
  • Gweithio mewn partneriaeth gyda’n gilydd ac eraill er mwyn integreiddio’r Gymraeg i bob agwedd ar fywyd
  • Creu a chefnogi swyddi Cymraeg
  • Rhannu a hyrwyddo gwerth y Gymraeg gyda theuluoedd, plant a phobl ifanc
  • Cefnogi Mentrau Iaith Cymru a gwaith ein gilydd