Gorau gweithio cydweithio, a dyna wna pob Menter Iaith gyda nifer o wahanol bartneriaid – o fudiadau i fusnesau, cynghorau a chymunedau – er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau dros Gymru. Hoffai’r Mentrau Iaith gyhoeddi enwau’r 3 prosiect sydd wedi cyrraedd rhestr fer yng Ngwobrau’r Mentrau Iaith am eu gwaith cydweithio â phartneriaid.

Gŵyl Canol Dre – Menter Gorllewin Sir Gâr 

Mae Gŵyl Canol Dre yn cyflwyno celfyddydau a diwylliant Cymraeg i‘r gymuned gyfan, o bob oed yng Nghaerfyrddin, a hynny diolch i gydweithio effeithiol. Gyda mudiadau Cymraeg, ysgolion cynradd tref Caerfyrddin ac eraill yn rhan o’r trefnu dros flwyddyn gyfan, mae gan bob partner rôl benodol er mwyn sicrhau llwyddiant yr ŵyl sy’n denu miloedd i fwynhau’r Gymraeg. 

Fforwm Iaith Sirol – Menter Iaith Môn 

Ers 2016 mae fforwm o bartneriaid ar yr ynys yn cwrdd yn fisol er mwyn cydweithio ar lefel strategol, yn darganfod bylchau, adnabod anghenion ac osgoi dyblygu gwaith. Nod y cydweithio yw sicrhau cynnydd yn niferoedd sy’n siarad a defnyddio’r iaith ym Môn. 

Cydweithio â Pyst – Menter Iaith Rhondda Cynon Taf 

Mae Pyst yn gwmni gwasanaeth labeli, dosbarthu a chydlynu digwyddiadau cerddorol sy’n canolbwyntio’n benodol ar gerddoriaeth o Gymru. Drwy gyd-weithio gyda’r arbenigedd hwn mae wedi galluogi’r Fenter i drefnu a hyrwyddo mwy o weithgareddau cerddorol Gymraeg yn y sir. Mae’r cyfuniad o wybodaeth y Fenter am hyrwyddo’n lleol ynghyd â gwybodaeth arbenigol Pyst am ddiwydiant cerddorol Cymru wedi bod o fudd mawr wrth ddenu cynulleidfa newydd i gerddoriaeth Gymraeg. 

Mae’r categori wedi ei noddi gan Bro360 – prosiect peilot gan gwmni Golwg i annog, ysgogi a chefnogi cymunedau yn ardal Arfon a gogledd Ceredigion i greu eu gwefannau straeon lleol eu hunain.