Caru pêl-droed?

Mae cystadleuaeth Euro2020 yn agosáu, a ry’n ni am i TI greu ‘chant’ pêl-droed -cân neu rap – i’r Wal Goch ei floeddio wrth gefnogi Cymru. 

Beth sydd angen ei wneud?  

Cer amdani a chreu ‘chant’ Gymraeg neu ddwyieithog sy’n addas i bawb ei weiddi o’r dorf neu yn y ‘stafell fyw. 

Mae’n rhaid iddi fod yn ddigyfeiliant. Ond beth am glapio i gadw curiad? 

Pwy sy’n cael cystadlu?  

Mae 3 chategori – oed cynradd, uwchradd ac oedolion.  

Gelli gystadlu fel unigolyn, fel grŵp, fel ysgol neu fel clwb. 

Bydd panel o feirniaid yn dewis y 3 uchaf ym mhob categori er mwyn mynd ymlaen i’r rownd derfynol. 

Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan y cyhoedd ar bleidlais cyfryngau cymdeithasol. 

Sut i gystadlu:  

Anfona recordiad o dy hun yn perfformio’r ‘chant’ at dy Fenter Iaith leol yn cynnwys y ffurflen hon. Mae rhestr a map o’r Mentrau Iaith i’w gweld yma, gyda dy fanylion cyswllt. 

Angen help gyda geirfa Cymraeg? Dyma restr o eirfa pêl-droed gall dy helpu, neu gelli gysylltu gyda dy Fenter Iaith leol am gyngor am sut i fynd ati. 

Pam cystadlu? 

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn chwilio am ‘chants’ newydd er mwyn i’r Wal Goch gefnogi Cymru, o gartref ac o’r dorf. 

Bydd crys arbennig wedi ei arwyddo gan garfan Euro2020 ar gael i fuddugwyr pob categori gyda chyfansoddwr y ‘chant’ gorau un yn cael y cyfle i ymweld â sesiwn ymarfer y garfan. . 

Erbyn pryd? 

Anfona dy gais mewn erbyn y 12ed o Fai. 

Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cyhoeddi’r enillwyr ar y 3ydd o Fehefin, mewn pryd ar gyfer cefnogi Cymru yn nhwrnamaint Euro2020.  

Mwy o gwestiynau? Clicia yma am atebion pellach