Mae’r Mentrau Iaith a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn galw ar gefnogwyr pêl-droed Cymru i bleidleisio ar gyfer chant newydd i gefnogi Cymru yn EURO2020. Bydd modd i bawb ddewis eu ffefryn o 9 ‘chant’ Cymraeg a dwyieithog yng nghystadleuaeth Gwlad y Chants rhwng Mehefin 2il a 4ydd, 2021 ar gyfryngau cymdeithasol Mentrau Iaith Cymru.

Cafodd y rhestr fer  eu dewis gan banel o feirniaid yn cynnwys y sylwebydd Sgorio, Sioned Dafydd, cyflwynydd ‘Y Wal Goch’, Yws Gwynedd, prif-leisydd band Y Cledrau, Joseff Owen a’r ffan o fri, Gwenno Teifi.

Dywed Joseff Owen;

“Mae chants yn ran mor bwysig o’r profiad o wylio pêl-droed ac o’r diwylliant yn gyffredinol ac mae’n gymaint o hwyl fod yn rhan o dorf yn gweiddi a’n mwynhau. Dwi’n meddwl dros y blwyddyn diwethaf heb ffans yn gallu mynd i wylio ‘da ni’n gweld eu colli nhw mwy nag erioed.”

Dywed Sioned Dafydd; 

“I fi mae chant pêl-droed da yn gorfod bod yn eithaf doniol, mae’n rhaid iddyn nhw fod yn syml a bydd pobl yn gallu dysgu’n gloi iawn. Fi wastad yn mwynhau bach o hiwmor mewn chant pêl-droed!”

Bydd enillydd pob categori yn derbyn crys wedi ei arwyddo gan garfan EURO2020 gyda’r prif enillydd yn cael y cyfle i ymweld â sesiwn ymarfer carfan Cymru yn y dyfodol. 

Mae Gwlad y Chants yn ymgyrch ar y cyd rhwng y Mentrau Iaith a Chymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn clywed mwy o’r Gymraeg yn cael ei defnyddio ar y terasau yn y dyfodol. 

Dywed Gwenno Teifi; 

“Ni ‘di dod yn bell o pan wnes i ddechrau mynd i weld Cymru yn clywed ‘WALES, WALES’ i ble ry’n ni nawr. Felly fi’n excited i weld bach o chants newydd, Cymraeg yn y mix.”

Dywed Dafydd Vaughan, Swyddog Maes ac Ieuenctid Menter Iaith Sir Benfro; 

“Ry’n ni’n edrych ymlaen at glywed y ‘chants’ buddugol yn cael eu canu wrth gefnogi Cymru yn EWRO2020. Gyda’r tîm cenedlaethol yn chwarae dwy gêm gyfeillgar yr wythnos hon, mae’n gyfle gwych i ni rhoi tro i’r ‘chants’ ‘ma cyn pleidleisio am eich ffefryn!”

Y rhestrau byrion: 

Cynradd: 

  • Osian Jones, Aberaeron 
  • Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe 
  • Ysgol Gymraeg Morswyn, Caergybi 

Uwchradd: 

  • Elin ac Elain, Ysgol David Hughes, Porthaethwy 
  • Ffotosynthesis, Canolfan Glantaf, Caerdydd 
  • Gethin Ellis, Llanfair Caereinion 

Oedolion: 

  • Yr un tal, Moelfre, Powys
  • Ken Thomas, Castell Nedd 
  • Elgan Rhys Jones, Waunfawr 

Mae modd clywed y chants a pleidleisio am eich ffefryn ar www.mentrauiaith.cymru/gwlad-y-chants