Ers mis Ionawr eleni mae sesiwn werin newydd yn cael ei chynnal yn lolfa tafarn Pen y Baedd (Boar’s Head) yng Nghaerfyrddin, wedi’i ysbrydoli gan sesiwn tebyg ym Mhontardawe.

Cafodd y sesiwn ym Mhontardawe hefyd ei ysbrydoli gan un arall, fel esbonia Harri Powell o Fenter Iaith Castell-nedd Port Talbot;

“Mae sesiynau yn Nhŷ Tawe, Abertawe wedi bod yn rhedeg am sbel, oeliaf 12 mlynedd, i gerddorion gwerin fwy profiadol. Yn Nhŷ Tawe wnes i gyfarfod Caradog Jones, sy’n delynor gwerin. Sylweddolais fod e’n frawd henach i Aneirin Jones, chwaraewr ffidil arbennig (No good Boyo/ Vri), ac roeddwn i wedi gweithio gydag Aneirin pan oedd yn YGG Ystalyfera.

Esboniodd Caradog fod syniad gydag ef i ddechrau sesiynau traddodiadol Cymreig yn ardal Cwm Tawe ac roeddwn i’n gyffrous iawn am y syniad hwn, gad fy mod i’n hoffi chwarae cerddoriaeth fy hun hefyd. O ganlyniad i’r sgwrs anffurfiol yma, trefnon ni gyfarfod yn swyddfa’r Fenter, gydag Aneirin a cherddor arall o Ystradgynlais o’r enw Geraint Roberts. O ganlyniad i’r cyfarfod yna, fe drefnwyd y Sesh Sŵn cyntaf fis Ebrill 2017 yn Nhafarn y Gwachel ym Mhontardawe.

Mae’r Sesh Sŵn ar agor i bawb o bob cefndir, gan gynnwys siaradwyr Gymraeg, dysgwyr a phobl ddi-gymraeg, yn ogystal â cherddorion profiadol, cerddorion newydd a phobl sy jyst eisiau mwynhau mewn awyrgylch hwyl Gymreig. Fel arfer mae sesiynau gwerin yn cynnwys mwy o alawon (heb ganu) ond rydyn ni’n canu cwpwl o ganeuon Cymraeg er mwyn bod yn fwy cynhwysol. Mae rhai yn hoffi dod i gael peint, gwylio a chanu ambell i gytgan. Mae’r sesiynau yn codi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig ac mae rhan fwyaf o’r bobol sy’n mynychu wedi dysgu lot o’r alawon a chaneuon dros y 2 flynedd diwethaf.”

O ganlyniad i’r sesiynau, mae 2 fand gwerin wedi ffurfio dros y flwyddyn a hanner diwethaf, sef ‘Gwŷr y Stac’ o ardaloedd Cwmafan a Chastell-nedd, a Madog o ardal Cwmtawe. Mae’r bandiau yma’n chwarae alawon a chaneuon traddodiadol a chaneuon gwreiddiol, ac erbyn hyn maen nhw’n gigio dros Gymru. Mae nifer o bobl wedi pwysleisio bod y sesiynau wedi gwella ei sgiliau a geirfa Cymraeg, yn ogystal â sgiliau cerddoriaeth. Mae ambell i berson wedi penderfynu dysgu Cymraeg o ganlyniad o’r Sesh Sŵn, gan eu bod nhw am wybod beth yw ystyr rhai o’r caneuon maent wedi dysgu.

Llynedd aeth Rhys James, Heledd ap Gwynfor ei wraig a Meredydd eu mab 3 oed i dafarn y Gwachel ym Mhontardawe i fwynhau noson SeshSŵn, gan ddychwelyd wedi’u hysbrydoli i gynnal un tebyg yng Nghaerfyrddin. Dywed Rhys;

“Mae Heledd fy ngwraig yn gweithio i Fentrau Iaith Cymru, a thrwy’r gwaith fe glywodd hi am y sesiwn yn y Gwachel ym Mhontardawe, felly aethon ni draw i ymuno. Dwi’n chwarae gitâr ac mae’r mab Meredydd wrth ei fodd gyda cherddoriaeth, yn canu a dawnsio o hyd, felly roeddem yn awyddus i ymuno mewn. Mae nosweithiau tebyg yn digwydd yn Llanelli, Abertawe a nifer o drefi eraill ar draws Cymru a ro’n ni’n gresynu nad oedd dim yng Nghaerfyrddin, yn enwedig rhai sy’n gadael i blant fynychu, felly dyma fynd ati i drefnu!”

Mae nosweithiau fel hyn yn boblogaidd tu hwnt yn Iwerddon a’r Alban, ac yn dod yn fwy poblogaidd yng Nghymru. Mae Sesiwn Pen y Baedd yn gyfle i griw o siaradwyr Cymraeg a’r di-gymraeg ddod at ei gilydd a chael clywed y Gymraeg a cherddoriaeth werin. Un rheol yn unig sydd, sef mai cerddoriaeth werin Gymreig yn unig sy’n cael ei chwarae, er mwyn bod y genhedlaeth nesaf yn dod yn gyfarwydd â nhw. Dywed Rhys James;

“Un o lwyddiannau mawr y noson oedd yr ystod o oedran oedd yn bresennol. Roedd gyda ni deuluoedd yno – o 6 oed i’r arddegau, ynghyd â chenhedlaeth eu rhieni a hŷn eto – briliant! Dyma ni ishe – pawb yn gallu mwynhau ymysg ein gilydd, a hefyd dysgu caneuon ac alawon newydd.”

4

Mae’r trefnwyr SeshSŵn yn falch o’r gwirfoddolwyr sy’n graidd i’r nosweithiau hyn. Dywed Harri Powell;

“Roedd e’n hyfryd cael gweld bod ardal arall yn frwdfrydig i ddechrau sesiwn ei hun. Y mwyaf o ardaloedd sy’n wneud hyn o gorau gyd yn ein barn ni, achos bydd e’n normaleiddio cysyniad o Sesiynau Cymreig i gymdeithas Cymru. Rwy’n hapus i gefnogi unrhyw fenter sydd am ddechrau un. Hoffwn i bwysleisio pam mor bwysig yw’r gwirfoddolwyr i’r Sesh Sŵn. Rydym yn dibynnu arnynt a hoffwn ddiolch iddyn nhw yn fawr iawn, yn enwedig Caradog Jones a Geraint Roberts. Felly rwy’n dymuno pob hwyl i Sesiwn Pen y Baedd a’r gwirfoddolwyr fel Rhys sy’n ei redeg.”