Bydd Gŵyl Fach y Fro, dathliad blynyddol o gelfyddydau a diwylliant Cymreig ym Mro Morgannwg yn cael ei chynnal yn ddigidol yn 2021.

Bydd rhaglen o ddigwyddiadau yn cael ei ffrydio ar blatfform AM Ddydd Sadwrn, Ebrill 17eg, gan gynnig cyfuniad cyffrous o gerddoriaeth, trafodaethau a gweithgareddau i blant.

Dywedodd Manon Rees O’Brien, Prif Weithredwr Menter Iaith Bro Morgannwg;

Roedd y tîm ym Menter Iaith Bro Morgannwg yn teimlo y byddai’n anhygoel gallu cynnig cynhyrchiad o safon i artistiaid a gwylwyr gartref i ddathlu popeth sy’n wych am ein hiaith a’n diwylliant. Rhaid diolch i’n cyllidwyr a’n cefnogwyr sydd wedi ein galluogi i ddod â Gŵyl Fach Y Fro atoch eleni.

A hithau’n gyfnod pryderus i’r celfyddydau, artistiaid, a’r diwydiant digwyddiadau byw, bydd yr ŵyl yn darparu platfform diwylliannol hanfodol a chefnogaeth i’r diwydiant ar adeg pan mae ei angen fwyaf.

Dywedodd Antwn Owen-Hicks o Gyngor Celfyddydau Cymru:

“Rydym yn falch iawn o fedru cefnogi Gŵyl Fach y Fro eleni, sydd yn un o uchafbwyntiau amlwg gweithgarwch Cymraeg ym Mro Morgannwg. Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar ffurf ddigidol am y tro cyntaf, ond bydd y rhaglen yn parhau i fod yn llawn grwpiau a gweithgareddau o safon uchel, sy’n siŵr o gynnwys rhywbeth at ddant pawb!”

Yn ogystal â’r gerddoriaeth, darperir elfennau arferol Gŵyl Fach y Fro eleni, gan gynnwys gweithdai i blant a chyfle i fasnachwyr a fyddai wedi cael stondin yn y digwyddiad arferol i gymryd rhan mewn marchnad ddigidol ar Facebook; a bydd gan ysgolion lleol Bro Morgannwg lwyfan digidol i arddangos eu talent.

Mae Menter Iaith Bro Morgannwg wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Bro Morgannwg i gynnal Gŵyl Fach y Fro eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant:

“Rwyf mor falch y gall Gŵyl Fach y Fro eleni fynd yn ei blaen gan ei bod yn ddigwyddiad hollbwysig i’r iaith Gymraeg, y celfyddydau a diwylliant ym Mro Morgannwg.

“Bydd yr ŵyl mis nesaf ychydig yn wahanol i flynyddoedd blaenorol oherwydd y pandemig, ond rwy’n edrych ymlaen yn fawr at wylio’r ffrwd a gweld yr amrywiaeth gyfoethog o gerddoriaeth, trafodaethau a gweithgareddau sydd ar gael.

“Mae’r Cyngor yn gefnogwr brwd Gŵyl Fach Y Fro ac yn awyddus i hyrwyddo unrhyw ddigwyddiad sy’n anelu at hyrwyddo iaith a threftadaeth Cymru.”

Bydd yr ŵyl yn cael ei ffrydio ar AM platfform ar-lein sy’n rhannu a dathlu creadigrwydd Cymru. Mae ap AM am ddim i’w lawrlwytho o Apple App Store a Google Play – www.amam.cymru/ambobdim ac mae modd gwylio ar gyfrifiadur ar www.amam.cymru

Am fwy o wybodaeth ac i weld amserlen y digwyddiadau edrychwch allan am gyhoeddiadau ar gyfryngau cymdeithasol Menter Iaith Bro Morgannwg a Gŵyl Fach y Fro.