Gyda biliynau o bob oed dros y byd yn treulio oriau y dydd yn chwarae gemau, sut mae manteisio ar y diwydiant i gynyddu defnydd a chodi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a Chymreictod?

Mae tua 37 miliwn o bobl yn y DU yn unig yn treulio’u hamser sbar yn chwarae gemau fideo. Yn 2018 roedd diwydiant gemau’r DU werth oddeutu £5.7biliwn a thua 65 stiwdio dechnoleg gemau wedi eu lleoli yng Nghymru yn 2019.

Ffordd wych i ddysgu iaith

Mewn eitem diweddar i BBC Cymru, dywed Morgan Roberts, o Fenter Caerffili:

“Gallwch dreulio oriau yn chwarae gemau felly mae’n hawdd iawn i bigo pethau fyny. Ffordd wych felly i ddysgu iaith. Mae’n bwysig eich bod yn chwarae gemau rydych yn angenrddol amdanynt, fel y gallwch rannu’r angerdd yna gyda’r gwylwyr a’r gymuned. Os feddyliwch chi am chwedloniaeth a hanes Cymru, yn debyg i gemau World of Warcraft a League of Legends, mae’r Gymraeg yn benthyg ei hun yn berffaith i’r math yma o gemau. Os gallwn greu delwedd hudol i’r iaith, a’i osod yn y ffordd gywir, rwy’n siwr bydd mwy a mwy o bobl yn meddwl “‘Dwi eisiau dysgu Cymraeg gan fod cymaint allan yno’n barod”.”

Dyma uchafbwyntiau o sesiynau Yn Chwarae, clwb gemau fideo i oedolion ifanc gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg:

Cynyddu dealltwriaeth am ein hanes

Yn ystod cyfnod y clo datblygwyd Clwb Gemau Fideo y Mentrau Iaith. Aeth Menter Iaith Môn, Menter Iaith Sir Ddinbych a Menter Caerffili ati i gynnig cyfleoedd digidol yn y Gymraeg i bobl ifanc wrth godi adeiladau arwyddocaol yn hanes Cymru ar Minecraft yn cynnwys Capel Celyn, Castell Dinas Bran a Chastell Aberlleiniog

Esboniodd Richard Owen, Menter Iaith Môn, ar ran y prosiect:

“Mae ysbryd ein cyndeidiau yn fyw yn y bobl ifanc yma, pan welwch yr egni a’r dyfeisgarwch sydd ganddynt yn ailadeiladu eu hetifeddiaeth ar Minecraft! Yn ei hanfod mae’r gweithgaredd yn caniatáu i bobl ifanc gymdeithasu a chydweithio yn y Gymraeg, sgiliau hanfodol i’r gweithle yn y dyfodol, tra hefyd cael hwyl a meithrin mwy o ddyfnder dealltwriaeth am eu hanes.”