Mae Mentrau Iaith y gogledd ddwyrain wedi trefnu ffair cynnyrch i roi cyfle i bobl cefnogi artistiaid a chrefftwyr lleol yn ystod y cyfnod clo.

Ddydd Sadwrn yma, 4 Gorffennaf bydd ‘drysau’r ffair’ ar agor ar dudalen Facebook Ffair Cynnyrch y Gogledd Ddwyrain rhwng 10am – 2pm. Ewch draw i weld yr arlwy gan bobl sy’n cynhyrchu bob math o waith celf a chrefft yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam a Chonwy.

Meddai Maiwenn Berry, un o’r trefnwyr : “rydym, fel Mentrau Iaith, wedi addasu llawer iawn o’n gweithgareddau dros y cyfnod clo, o gynnal sesiynau stori i blant bach, sesiynau Minecraft a Fifa i blant ychydig yn hŷn, cefnogaeth ar lein i rieni a dysgwyr Cymraeg, a chefnogaeth i fusnesau bach er mwyn parhau i annog defnydd cynyddol o’r Gymraeg. Mae’r ffair cynnyrch y penwythnos hon yn gyfle gwych i bobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt ddod i adnabod artistiaid a chrefftwyr lleol ar yr union adeg lle nad yw’n bosib mynd allan i farchnad neu ffeiri haf arferol.”

Os ydych chi’n grefftwr lleol i’r ardal ac eisiau cyfle i arddangos eich cynnyrch – cysylltwch gyda gweinyddwyr trwy’r dudalen – cyntaf i’r felin gan mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael.

104203399_106172281140144_180057726473173203_o